Ian Watkins wedi ei fygwth ddyddiau cyn ei farwolaeth - achos llys

Ian Watkins

Derbyniodd y troseddwr rhyw a chyn-ganwr y Lost Prophets Ian Watkins fygythiadau, ddyddiau cyn ei farwolaeth yng ngharchar Wakefield, mae achos llys wedi clywed. 

Clywodd y gwrandawiad fod Watkins wedi derbyn llythyron yn mynnu arian, neu fe fyddai'n cael ei anafu yn ei ben. 

Cafodd y troseddwr rhyw ei drywanu i farwolaeth yn ei gell ar 11 Hydref y llynedd. 

Roedd yn treulio dedfryd o 29 mlynedd o dan glo, am droseddau rhyw yn erbyn plant.

Clywodd Llys y Goron Leeds ddatganiadau gan bobl oedd yn gweithio yn y carchar, ac a welodd Ian Watkins wedi'r digwyddiad. 

Eglurodd un ei fod wedi ei orchuddio mewn gwaed. 

Clywodd y rheithgor i'r canwr dderbyn llythyron yn mynnu £500 am “Hi-Fi, lamp a ffan.”

Mae Rico Gedel, 25 oed, a Samuel Dodsworth, 44 oed yn gwadu ei lofruddio. 

Dywedodd y swyddog carchar, Simon Rothwell, fod Watkins yn “fregus” am fod carcharorion eraill yn “gwybod fod ganddo arian.”

Yn ôl Mr Rothwell, dywedodd Watkins wrtho fis Hydref ei fod wedi derbyn dau lythyr a oedd yn “go fygythiol.” 

Ychwanegodd: “Dywedais wrtho y byddem yn dod i lawr i'r adain i'w weld a mynd â'r llythyron.”

Ar ôl cymryd y llythyron, dywedodd y swyddog iddo gysylltu â Watkins a'i “gynghori i hunanynysu dros y penwythnos.”

Ond dywedodd Watkins wrtho: “Na 'dw i'n meddwl y byddai'n iawn.'”

Mewn datganiad, dywedodd plymwr yng ngharchar Wakefield iddo weld Watkins yn dal ei wddf yn fuan wedi'r digwyddiad.  

Ychwanegodd iddo weld gwaed ar y llawr.  

Eglurodd gweithiwr arall fod gan Watkins glwyf mawr wrth ei ên.

Cafodd Ian Watkins ei garcharu am 29 mlynedd ym mis Rhagfyr 2013, gyda chwe blynedd ychwanegol ar drwydded, ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw, yn cynnwys ceisio treisio baban.   

Mae'r achos yn parhau.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.