Gŵyr yn nodi 70 mlynedd fel ardal o harddwch naturiol eithriadol

Will Pritchard

Mae Penrhyn Gŵyr yn dathlu 70 mlynedd ers cael ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig.

I’r gorllewin o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn ymestyn allan tuag at Fôr Hafren. Mae’r ardal yn cynnwys traethau, clogwyni, ffermdir a phentrefi gwledig sydd wedi denu ymwelwyr ers cenedlaethau.

Mae AHNE y Gŵyr yn ymestyn dros ryw 188 cilometr sgwâr, o aber afon Llwchwr yn y gogledd-orllewin i Rosili yn y gorllewin, ac ar hyd arfordir y de tuag at y Mwmbwls yn y dwyrain.

Un o’r mannau mwyaf adnabyddus yw Bae Rhosili, a gafodd ei gynnwys ar restr Big 7 Travel o 50 traeth gorau’r byd yn 2023.

Cafodd y gorchymyn i ddynodi Gŵyr yn AHNE ei lofnodi gan y Comisiwn Parciau Cenedlaethol ar 9 Mai 1956, cyn i’r dynodiad gael ei gadarnhau’n ffurfiol ar 10 Rhagfyr yr un flwyddyn.

Roedd y statws yn cydnabod tirwedd naturiol unigryw’r ardal.

Mae ei statws cyfreithiol fel AHNE yn parhau hyd heddiw.

Yn ôl Malcolm a Ruth Ridge sy’n aelodau o Gymdeithas Cyfeillion y Gŵyr, elusen sy’n ymgyrchu dros warchod harddwch a chymeriad yr ardal, roedd y penrhyn eisoes wedi’i gynnwys ar restr y Comisiwn Parciau Cenedlaethol oherwydd ei harddwch naturiol cyn i’r dynodiad gael ei gadarnhau.

Dywedon nhw wrth Newyddion S4C fod y statws wedi chwarae rhan bwysig wrth warchod yr ardal, gan ddweud bod dynodiad AHNE “yn sicr wedi chwarae rhan mewn atal yr enghreifftiau gwaethaf o orddatblygu".

Ond ychwanegon nhw fod y statws hefyd wedi dod â heriau, gyda’r dynodiad yn dod “yn gleddyf deufin i raddau” wrth i’r cyhoeddusrwydd annog mwy o ymwelwyr i ardaloedd a chynefinoedd bregus.

Er hynny, mae’r Gymdeithas yn dweud bod y penrhyn yn parhau i ymfalchïo yn ei le yn hanes tirweddau gwarchodedig.

“Mae Gŵyr yn dal yn falch o fod yn AHNE rhif 1,” meddai’r ddau.

Image
Blodau haul wrth Worms head
Mae blodau’r haul ger Rhosili wedi profi’n boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, gyda Phen Pyrod i’w weld yn y cefndir

Dywedodd Cyngor Abertawe fod y pen-blwydd yn gyfle i ddathlu nid yn unig tirweddau Gŵyr, ond hefyd “y bobl, y cymunedau a’r busnesau” sy’n helpu i wneud yr ardal mor groesawgar.

Yn ôl Tracey McNulty, pennaeth gwasanaethau diwylliannol y cyngor, mae Gŵyr yn parhau i arloesi fel AHNE, gan ddod yn Gymuned Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf de Cymru.

Mae hynny, meddai, yn enghraifft o sut mae ardaloedd gwarchodedig yn gallu addasu i heriau modern.

“Rydym ni’n croesawu pawb i fod yn rhan o’r dathliadau, boed hynny’n bobl sy’n darganfod Gŵyr am y tro cyntaf, neu’n dychwelyd i’w hoff le,” meddai.

“Archwiliwch yn gyfrifol, cefnogwch fusnesau lleol a helpwch i gadw’r rhan brydferth hon o dde-orllewin Cymru yn arbennig am flynyddoedd i ddod.”

Mantais a her

I’r rhai sy’n byw ac yn gweithio ar diroedd Penrhyn Gŵyr, mae’r statws yn fwy na dynodiad ar bapur.

Yn ôl Will Pritchard, sy’n ffermio ar forfeydd heli yng ngogledd Gŵyr, mae ffermwyr “yn dal i chwarae rhan enfawr” wrth gynnal cymeriad y penrhyn, gan ychwanegu bod twristiaeth yn amlwg i lawer sy’n ymweld â’r ardal, “ond mae ffermwyr yn dal i siapio lot o hynny".

Mae e'n rhedeg busnes Cig Oen Morfa Heli Gŵyr ochr yn ochr â’r busnes ffermio teuluol.

Mae’r cig oen wedi’i gofrestru fel cynnyrch â statws Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig, neu PDO, sy’n rhoi gwarchodaeth swyddogol i’r enw, yn yr un modd ag y mae Champagne wedi’i warchod.

I gael eu hystyried yn Gig Oen Morfa Heli Gŵyr, mae’n rhaid i’r ŵyn fod wedi pori ar forfeydd heli gogledd Penrhyn Gŵyr am ran sylweddol o’u hoes.

Cig Oen Morfa Heli Gŵyr oedd y cynnyrch bwyd cyntaf o Brydain i gael statws gwarchodedig o dan gynllun newydd y DU ar ôl Brexit.

Dywedodd Will Pritchard wrth Newyddion S4C fod enw da’r Gŵyr yn gallu helpu cynhyrchwyr lleol i hyrwyddo eu cynnyrch.

“Dwi’n meddwl bod bod mewn ardal fel hyn, a bod y cyntaf un, ie, mae hynny’n bendant yn fantais fawr,” meddai.

Image
Morfeydd heli Fferm Weobley Castle ar Benrhyn Gŵyr.
Defaid yn pori morfeydd heli Fferm Castell Weobley ar Benrhyn Gŵyr

Ond mae’r statws hefyd yn gallu gwneud bywyd yn fwy cymhleth.

“Y peth sy’n fwy o rwystr fyddai caniatâd cynllunio,” meddai

“Mae’n debyg ei fod e’n gwneud pethau ychydig bach yn anoddach, sydd wedyn yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl ifanc yn benodol aros yn rhan o ffermio.”

Mae hynny oherwydd bod ceisiadau cynllunio mewn AHNE yn cael eu hystyried yn fwy gofalus, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n niweidio cymeriad, harddwch naturiol na naws wledig yr ardal.

Dywedodd fod angen cydbwyso gwarchod cymeriad Gŵyr â sicrhau bod pobl ifanc yn gallu parhau i fyw a gweithio yno.

“Ti eisiau cadw Gŵyr yn neis, yn wledig, yn agored ac heb ei ddifetha. Ond wedyn, mae angen i bobl ifanc allu aros yma hefyd.”

Heb ffermwyr, meddai, byddai perygl i’r Gŵyr droi “naill ai’n safle carafanau statig neu’n blotiau ar gyfer tai newydd.”

Pobl a natur

Yn ôl Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, mae cyrraedd 70 mlynedd fel AHNE yn garreg filltir sylweddol i’r Gŵyr.

Mae’r elusen yn gofalu am rannau o Rosili ac arfordir de Gŵyr, gan warchod cynefinoedd, rheoli pwysau ymwelwyr a helpu pobl i fwynhau’r ardal yn gyfrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen fod statws Gŵyr fel AHNE gyntaf y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu’r gydnabyddiaeth fod yr ardal yn lle o harddwch naturiol eithriadol, treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth gymunedol gref.

Ond mae’r elusen yn dweud bod gwarchod y dirwedd yn gofyn am waith parhaus, wrth i Rosili ac arfordir de Gŵyr wynebu heriau cynyddol fel newid hinsawdd a’r angen i reoli pwysau ymwelwyr.

“Ar yr un pryd, mae ein timau cefn gwlad a cheidwaid yn gweithio’n ddiflino i warchod a gwella’r tirweddau hyn, gan sicrhau bod pobl a natur yn gallu ffynnu gyda’i gilydd.”

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd dynodiad Gŵyr yn gam blaengar yn 1956, ac y gall yr ardal barhau i ffynnu am ddegawdau i ddod drwy’r un “gofal, cydweithio ac ymrwymiad”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.