Iran yn bygwth ymosod ar fyddin America os y bydd yn mynd i mewn i Gulfor Hormuz

Culfor Hormuz

Mae byddin Iran wedi rhybuddio y bydd yn ymosod ar aelodau o fyddin yr Unol Daleithiau os y byddan nhw'n mynd i mewn i Gulfor Hormuz.

Daw'r rhybudd ar ôl i'r Arlywydd Donald Trump ddweud y bydd milwyr yr Unol Daleithiau yn dechrau rhyddhau llongau sydd wedi’u dal yn y culfor fore Llun.

"Er lles Iran, y Dwyrain Canol, a'r Unol Daleithiau, rydym wedi dweud wrth y gwledydd hyn y byddwn yn tywys eu llongau yn ddiogel allan o'r Dyfrffyrdd cyfyngedig hyn," meddai'r arlywydd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul.

Fe wnaeth Iran gau'r culfor hanfodol ddechrau mis Mawrth yn dilyn ymosodiadau gan America ac Israel.

O ganlyniad i'r gwrthdaro, mae tua 20,000 o bobl a 2,000 o longau wedi methu gadael y culfor ers i'r rhyfel ddechrau, meddai pennaeth y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol yr wythnos diwethaf.

Mae'r Arlywydd Trump wedi enwi'r ymgyrch i ryddhau'r llongau yn "Prosiect Rhyddid", ac mae'n rhybuddio y bydd yn ymateb yn gadarn i unrhyw ymyrraeth.

Yn ôl byddin yr Unol Daleithiau, bydd 15,000 o filwyr a 100 o awyrennau yn rhan o'r ymgyrch i sicrhau bod y llongau'n gallu teithio'n ddiogel trwy'r culfor.

Ond mae un o swyddogion blaenllaw Iran, Ebrahim Azizi, wedi dweud y byddai "unrhyw ymyrraeth Americanaidd" yn torri amodau'r cadoediad.

Mae Swyddfa Dramor Iran hefyd wedi dweud ei bod yn barod i "ymateb i fygythiadau'r Unol Daleithiau" yn y culfor.

Dywedodd y llefarydd Esmail Baghaie ar ran y swyddfa mai Iran yw "gwarcheidwad ac amddiffynnydd" y culfor o hyd. 

"Mae llongau a chwmnïau llongau yn gwybod yn iawn bod sicrhau eu diogelwch yn gofyn am gydlynu ag awdurdodau cymwys Gweriniaeth Islamaidd Iran," ychwanegodd.

 

 

 

 

 

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.