Mae teithiwr o Brydain yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Ne Affrica yn dilyn achos sy'n cael ei amau o fod yn feirws hanta ar long bleser a oedd yn hwylio drwy Gefnfor yr Iwerydd, yn ôl adran iechyd y wlad.
Mae tri o bobl wedi marw ac o leiaf dri arall yn sâl, meddai Sefydliad Iechyd y Byd mewn datganiad.
Dywedodd yr asiantaeth hefyd fod ymchwiliad wedi dechrau a bod o leiaf un achos o feirws hanta wedi’i gadarnhau.
Cafodd yr achos ei gofnodi ar y llong bleser MV Hondius, a oedd yn hwylio o’r Ariannin i Cape Verde.
Roedd y llong wedi’i hangori ger Praia, prifddinas Cape Verde, nos Sul, yn ôl gwefan olrhain llongau MarineTraffic.
Mae ganddi gapasiti ar gyfer 170 o deithwyr mewn 80 o gabanau, meddai'r cwmni teithiau Oceanwide Expeditions.
Gall heintiau feirws hanta, sy’n cael eu lledaenu fel arfer drwy wrin neu faw llygod, arwain at salwch anadlol difrifol, ac weithiau gallant fod yn angheuol.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd De Affrica fod dyn o’r DU a aeth yn sâl ar y llong wedi’i gludo i gyfleuster iechyd preifat yn Sandton, Johannesburg.
"Daeth canlyniadau ei brofion labordy yn ôl yn bositif ar gyfer feirws hanta," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor y DU: "Rydym yn monitro adroddiadau’n agos am achos posib o feirws hanta ar y llong bleser Hondius ac yn barod i gefnogi dinasyddion Prydeinig os oes angen.
"Rydym mewn cysylltiad â’r cwmni mordeithio a’r awdurdodau lleol."
Yn ôl Awdurdod Iechyd De Affrica, mae dyn 70 oed a’i wraig 69 oed, o’r Iseldiroedd, wedi marw ar ôl mynd yn sâl.
Dywedodd yr awdurdod fod y dyn wedi dioddef twymyn, cur pen, poen yn yr abdomen a dolur rhydd, ac iddo farw ar Ynys Saint Helena, tra bod y wraig wedi’i chludo i’r ysbyty yn ardal Kempton Park yn Ne Affrica ar ôl iddi lewygu mewn maes awyr.
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd: "Mae ymchwiliadau manwl yn parhau, gan gynnwys profion labordy pellach ac ymchwiliadau epidemiolegol.
"Mae gofal meddygol a chymorth yn cael eu darparu i deithwyr ac i griw’r llong."
Dywedodd gweithredwr y fordaith, Oceanwide Expeditions, ddydd Sul nad oedd awdurdodau Cape Verde wedi rhoi caniatâd i ddau aelod o’r criw adael y llong, a'u bod angen gofal meddygol brys.
Mae awdurdodau iechyd lleol wedi ymweld â’r llong i asesu eu cyflwr.
Dywedodd datganiad y cwmni mai ei flaenoriaeth yw sicrhau bod y ddau aelod o’r criw yn derbyn "gofal meddygol digonol a chyflym".
Er ei fod yn brin, gall achos o'r feirws hanta ledaenu rhwng pobl, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Nid oes triniaeth benodol na iachâd, ond mae gan gleifion well gobaith o oroesi os ydynt yn cael sylw meddygol yn gynnar.