Cau ffordd yng Ngheredigion unwaith eto wrth i'r heddlu ymchwilio i ragor o ddyfeisiau ffrwydrol
Roedd ffordd ger Tal-y-bont yng Ngheredigion ar gau am gyfnod unwaith eto fore Mercher wrth i'r heddlu ymchwilio i ragor o ddyfeisiau ffrwydrol mewn hen gloddfa yn yr ardal.
Cafodd yr A487 ei chau am y tro cyntaf brynhawn Mawrth, wedi i ddyfais ffrwydrol gael ei darganfod ym Mhwll Mwyn Leri.
Ar ôl i'r Uned Ordnans Ffrwydrol gael gwared o'r ddyfais yn ddiogel, daeth swyddogion o hyd i ragor o ddyfeisiau yn yr ardal a allai fod yn beryglus.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr Uned Ordnans Ffrwydrol wedi dychwelyd i'r safle rhwng 08.30 a 09.00 ddydd Mercher gyda chefnogaeth y gwasanaethau brys, er mwyn gwaredu'r dyfeisiau'n ddiogel.
O ganlyniad roedd yn rhaid cau ffordd yr A487 ger Tal-y-bont eto ychydig cyn 10.00 ddydd Mercher, cyn ei hailagor am 11.00.
Mewn datganiad brynhawn Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae’r Uned Ordnans Ffrwydrol yn cynnal ffrwydrad dan reolaeth ym Mhwll Mwyn Leri ar ôl i eitemau gael eu darganfod a allai fod yn cynnwys deunyddiau ffrwydrol.
"Mae gwasanaethau brys, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaeth tân, yn cefnogi’r gweithrediad i'w gwneud yn ddiogel.
"Mae mesurau diogelwch wedi’u rhoi ar waith, gan gynnwys cau’r ffordd, cordon 150 metr, a defnyddio sachau tywod fel yr argymhellwyd gan arbenigwyr yr Uned Ordnans Ffrwydrol."
O ganlyniad i gau'r ffordd brynhawn Mawrth, roedd nifer o ddisgyblion Ysgol Penweddig yn Llanbadarn Fawr sy'n teithio ar fysiau yn hwyr yn cyrraedd adref.
