'Llai o arian ar gyfer seilwaith' os bydd hawliad llygredd Afon Gwy yn llwyddo

Afon Gwy

Bydd llai o arian ar gael i fuddsoddi mewn seilwaith os bydd achos llys sy'n cael ei ddwyn gan fwy na 1,300 o bobl ynglŷn â llygredd mewn rhai o afonydd Cymru yn llwyddiannus, meddai cyfreithwyr ar ran Dŵr Cymru wrth yr Uchel Lys.

Mae'r hawlwyr yn dwyn achos llys yn erbyn Dŵr Cymru a chwmnïau ieir a thwrciod, gan honni eu bod yn llygru Afon Gwy, Afon Llugwy ac Afon Wysg.

Maen nhw'n dweud bod carthffosiaeth, cemegau a thail ieir wedi eu rhyddhau i'r dŵr ac effeithio ar ansawdd yr afonydd.

Yn ôl yr hawlwyr, mae hyn wedi arwain at golli bioamrywiaeth ac wedi effeithio ar weithgareddau hamdden ar yr afonydd.

Mae Dŵr Cymru, Avara Foods a Freemans of Newent yn gwadu'r honiadau yn eu herbyn.

Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Llun, dywedodd Anneliese Day KC ar ran y grŵp: "O ganlyniad i lygredd y mae’r diffynyddion yn gyfrifol amdano drwy eu gweithgareddau amaethyddol a charthffosiaeth, mae iechyd Afon Gwy ac Afon Wysg wedi dirywio.

"Mae dirywiad ecolegol yr afonydd wedi achosi niwed i’r hawlwyr, sy’n ceisio iawndal sylweddol a gorchmynion atal yn erbyn y diffynyddion."

Ychwanegodd fod 1,309 o bobl wedi ymuno â'r achos llys hyd yn hyn.

Dywedodd Geraint Webb KC, ar ran Dŵr Cymru, fod "paradocs amlwg" yn y ffaith bod yr achos yn cael ei ddwyn, gan fod Dŵr Cymru yn gwmni di-elw.

"Pe bai’r hawlwyr yn llwyddo i gael iawndal yn yr achos hwn gan Dŵr Cymru, byddai hynny’n lleihau’r arian sydd ar gael i’r cwmni ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, ac yn creu risg o effeithiau andwyol ar wasanaethau i gwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd," meddai.

Fe aeth ymlaen i ddweud nad oes "dim byd arferol" yn y ffordd y mae’r achos wedi’i chyflwyno, gan dynnu sylw at hysbyseb a gyhoeddwyd gan y cwmni cyfreithiol Leigh Day, sy’n awgrymu y gall pobl ymuno os ydynt yn defnyddio’r afon ar gyfer gweithgareddau hamdden.

'Hawliad diffygiol'

Dywedodd Charles Gibson KC, ar ran y cwmnïau bwyd, fod honiad y grŵp bod gwrtaith wedi achosi llygredd yn "gwbl seiliedig ar gasgliadau ac yn orsymleiddio".

"Mae eu hawliad yn sylfaenol ddiffygiol o ran y gyfraith a’r ffeithiau, heb unrhyw sail wyddonol briodol, ac yn camddeall sut mae ffermydd dofednod yn gweithredu mewn gwirionedd," meddai.

Ychwanegodd y bargyfreithiwr y dylai’r rhai sy’n dwyn achos nodi sut maent wedi cael eu heffeithio’n bersonol a’r dyddiad y dechreuodd hynny.

"Ym mhob un o’r achosion hyn, bydd yn hanfodol i bob hawlydd brofi nid yn unig fod rhannau o Afon Gwy wedi’u llygru, ond bod yr hawlydd ei hun wedi cael ei effeithio’n bersonol gan y llygredd hwnnw," meddai. 

"A bod y llygredd hwnnw wedi achosi colled a niwed y mae modd gweithredu arnynt."

Disgrifiodd y Barnwr David Cook yr hawliad fel "omnibws" y gall "unrhyw un fynd arno", ond bod "rhaid i unrhyw un sydd am ymuno â’r bws gyflwyno achos".

Ychwanegodd y barnwr: "Mae’r ffordd y mae’r hawlwyr wedi mynd ati yn fwy tebyg i lofnodi deiseb.

"A dweud y gwir, rwyf wedi cael fy synnu gan y ffordd y mae’r hawlwyr wedi gweithredu.

"Roedd yn ymddangos mai eu ffordd nhw neu ddim o gwbl."

Mae disgwyl i’r gwrandawiad ddod i ben ddydd Llun.

Does dim disgwyl datrysiad yn yr achos am rai blynyddoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.