Ysgol ym Mhowys dan glo wedi 'bygythiad ar-lein'
Cafodd ysgol uwchradd ym Mhowys ei gosod dan glo gan yr heddlu yn dilyn bygythiad a gafodd ei wneud ar-lein.
Mewn datganiad brynhawn Llun, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi ymateb i ddigwyddiad yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu ar ôl derbyn adroddiad am 11.38.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae swyddogion wrthi'n gweithio gyda'r ysgol yn dilyn bygythiad a wnaed ar-lein.
"Fel rhagofal ac i flaenoriaethu diogelwch pawb, fe gafodd perimedr yr ysgol ei gloi, gan olygu nad oedd unrhyw un yn gallu mynd ar safle'r ysgol na gadael y prynhawn yma.
"Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi ar ddiwedd y diwrnod ysgol, a bydd swyddogion i'w gweld ar y safle tra bod disgyblion yn gadael yr ysgol."
Mewn neges at rieni, dywedodd pennaeth Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Mr Rob Edwards: “Mae'r heddlu wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel i ddisgyblion aros dan do, ac mae gwersi'n parhau fel arfer.
“Bydd trefniadau cinio yn digwydd fel arfer, gyda disgyblion yn cael eu goruchwylio y tu mewn ac ar y safle.
"Gofynnwn yn garedig i rieni a gofalwyr beidio â dod i'r ysgol i gasglu plant ar hyn o bryd, gan y gallai hyn rwystro rheolaeth ddiogel ac effeithiol y sefyllfa.
“Byddwn yn darparu diweddariadau pellach cyn gynted ag y bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad parhaus."