Carcharu dyn o Abertawe am dreisio menyw ar ôl ffugio bod yn yrrwr Uber

Abdul Shahid
Abdul Shahid

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am dreisio menyw ar ôl ffugio ei fod yn yrrwr tacsi Uber  

Roedd Abdul Shahid, 41 oed, o ardal Sgeti yn y ddinas, wedi rhoi'r argraff i'w ddioddefwraig ei fod yn yrrwr Uber pan ddaeth i'w chasglu yn Abertawe, gan ei chludo ar ffyrdd tywyll cyn stopio mewn maes parcio lle aeth ymlaen i'w threisio.

Ar ôl pledio'n ddieuog i bob cyhuddiad, cafodd Shahid ei ddyfarnu'n euog o ddau gyhuddiad o dreisio a chyhuddiad o ymosod trwy dreiddiad.

Ddydd Llun, cafodd ei ddedfrydu i 18 mlynedd estynedig yn y carchar.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Claire Davies: "Hoffwn ddiolch i’r ddioddefwraig yn yr achos hwn am ddod ymlaen ac am fod yn ddewr drwy gydol y broses ymchwilio. Oherwydd hi, rydym wedi gallu euogfarnu dyn sy’n amlwg yn fygythiad i fenywod. 

"Gallaf ond gobeithio y bydd hyn yn ei helpu i symud ymlaen mewn ffordd fwy cadarnhaol a chael rhyw fath o glo.

"Yn ystod yr achos, ni ddangosodd Abdul Shahid unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd a cheisiodd feio’r ddioddefwraig am yr hyn a wnaeth. 

"Roedd y ddioddefwraig yn ceisio mynd adref ac wedi rhoi ei hymddiriedaeth yn yr hyn yr oedd hi’n ei ystyried yn yrrwr Uber.

"Os ydych chi’n ddioddefwr trosedd rywiol, rydym yn eich annog i’w adrodd i’r heddlu cyn gynted â phosibl.

"Byddwch yn cael eich cefnogi, a bydd swyddogion yn trin pob adroddiad â sensitifrwydd a phroffesiynoldeb."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.