Cynnal gwylnos er cof am fab cerddor o Gymru a gafodd ei drywanu

Rhieni Finbar Sullivan, Leah Seresin a Chris Sullivan
Rhieni Finbar Sullivan, Leah Seresin a Chris Sullivan

Mae gwylnos wedi cael ei chynnal er cof am fab cerddor o Gymru a gafodd ei ladd mewn parc yng ngogledd Llundain.

Bu farw Finbar Sullivan, mab y cerddor Christopher Sullivan o Ferthyr Tudful, yn 21 oed ar ôl cael ei drywanu ar Fryn y Briallu nos Fawrth 7 Ebrill.

Daeth nifer o'i ffrindiau a'i deulu ynghyd ar Fryn y Briallu nos Sul ar gyfer gwylnos er cof amdano, gyda nifer o gerddorion yno hefyd.

Yn eu plith roedd prif leisydd y grŵp Madness, Graham 'Suggs' McPherson, a wnaeth ganu'r gân It Must Be Love yn ystod y digwyddiad.

Roedd y cerddor Paul Weller, prif leisydd Dexys Midnight Runners Kevin Rowland, prif leisydd Primal Scream Bobby Gillespie, a Glen Matlock, gitarydd bas The Sex Pistols, hefyd wedi mynd i'r wylnos, yn ôl y trefnwyr.

Cafodd blodau a chanhwyllau eu gosod wrth gatiau’r parc, ynghyd â lluniau o Mr Sullivan.

Cafodd rhai o'i hoff ganeuon eu canu yn ystod y digwyddiad, gyda munud o dawelwch hefyd yn cael ei gynnal.

Roedd Mr Sullivan, a oedd yn cael ei adnabod fel Fin gan ei ffrindiau, yn fyfyriwr yn y London Screen Academy.

Image
Finbar Sullivan
Cafodd Finbar Sullivan ei drywanu ar Fryn y Briallu yn Llundain

Yn ôl ei dad, roedd wedi mynd i Fryn y Briallu i arbrofi gyda'i gamera newydd a oedd yn anrheg pen-blwydd.

Dywedodd Chris Sullivan fod gan ei fab uchelgais i ddilyn olion traed ei daid, y dyn camera Michael Seresin, a oedd wedi gweithio ar sawl ffilm enwog, gan gynnwys Harry Potter and the Prisoner of Azkaban a Rambo III.

Yn dilyn yr wylnos, dywedodd ei dad: "Fe wnaethom ni benderfynu cynnal teyrnged fach iddo a dod â’r holl bobl hyn at ei gilydd.

"Rwy’n hynod o falch o weld yr amrywiaeth o bobl – o ran oedran, hil, lliw a chredo.

"Felly rwy’n credu y dylai etifeddiaeth Finbar fod yn hynny, undod, cariad a heddwch."

Dywedodd Mr Sullivan fod ei fab yn "llawn jôcs" ac yn "berson hynod gariadus", gan ychwanegu: "Ef oedd popeth i mi erioed.

"Felly mae fel petai’ch dau goes wedi’u torri i ffwrdd – rydych chi’n gwybod eu bod nhw wedi mynd, ac ni fyddwch byth yn eu hanghofio, ond bydd hi bob amser yn anodd delio â hynny. Dydw i ddim yn disgwyl taith hawdd."

Mae tri dyn wedi’u cyhuddo o’i lofruddio: Ernest Boateng, 25 oed; Alexis Bidace, 25 oed; ac Oliuwadamilola Ogunyankinnu, 27 oed.

Mae pedwerydd dyn, Khalid Abdulqadir, 18 oed, wedi’i gyhuddo ar wahân mewn cysylltiad â’r un digwyddiad. 

Mae Abdulqadir yn wynebu cyhuddiadau o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad i ail ddioddefwr honedig, anhrefn treisgar, a bod â chyllell yn ei feddiant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.