Cyhuddo dyn 37 oed o Gwmbrân o lofruddiaeth
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 37 oed o Gwmbrân o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn arall yn Nhorfaen.
Cafodd Aaron Cook ei gyhuddo hefyd o wneud bygythiadau i ladd ac aflonyddu, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Aeth swyddogion i eiddo yn Bythway Road, Trefddyn ym Mhont-y-pŵl, tua 16:55 ddydd Iau 23 Ebrill. Cafodd parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru hefyd eu galw.
Cafodd Nicholas ‘Brian’ Parfitt, 74, o Drefddyn, ei ddatgan yn farw yn y fan a’r lle.
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi’r teulu.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Shelly Comley: “Rydym yn deall bod llawer iawn o ddiddordeb wedi bod yn yr ymchwiliad hwn.
“Rydym yn gofyn i bobl ystyried sut y gall eu hiaith, yn enwedig sylwadau sy’n cael eu gwneud ar-lein, effeithio ar ein gallu i ddod ag unrhyw un y canfyddir ei fod wedi cyflawni trosedd o flaen eu gwell.
“Bydd swyddogion yn parhau yn yr ardal wrth i’n hymholiadau barhau, felly os oes gan unrhyw un wybodaeth, siaradwch â’n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ddefnyddio’r ffurflen ar wefan yr heddlu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600125343.
Mae modd hefyd ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.