Arestio dyn mewn cysylltiad â chyfres o ymosodiadau ar safleoedd Iddewig

Arwydd New Scotland Yard, Heddlu'r Met, Llundain

Mae dyn 37 oed wedi cael ei arestio gan heddlu gwrthderfysgaeth fel rhan o ymchwiliad i gyfres o ymosodiadau ar safleoedd Iddewig yn Llundain.

Cafodd y dyn ei arestio mewn cyfeiriad ger Barnstaple, Dyfnaint, ddydd Sul, ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd terfysgol, meddai Heddlu’r Met.

Mae 26 o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â chyfres o ymosodiadau ar safleoedd Iddewig ers diwedd mis Mawrth, meddai’r llu.

Mae ymosodiadau llosgi bwriadol wedi bod ar ambiwlansys cymunedol Iddewig yn Golders Green, gogledd-orllewin Llundain, ar synagog ac ar safle cyn-elusen Iddewig.

Roedd digwyddiad yn ogystal lle y cafodd drôn ei hedfan ger llysgenhadaeth Israel.

Mae heddlu gwrthderfysgaeth wedi bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd bod dirprwyon Iran yn gysylltiedig â’r ymosodiadau.

Mae eiddo sy’n gysylltiedig â phobl sy’n gwrthwynebu cyfundrefn Iran hefyd wedi cael ei dargedu, meddai’r Met yr wythnos diwethaf.

Roedd yna ymgais i gynnau tân yn fwriadol hefyd ar 15 Ebrill yn Synagog Ddiwygiedig Finchley, ac am tua 8.30pm y tu allan i swyddfeydd cwmni cyfryngau Perseg. Mae'r ddau safle yng ngogledd-orllewin Llundain.

Ddydd Mawrth, plediodd bachgen 17 oed yn euog yn Llys Ynadon Westminster i gynnau tân yn fwriadol heb beryglu bywyd yn dilyn yr ymosodiad ar Synagog Unedig Kenton.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.