Pryder y bydd adeiladu tai yn newid cymeriad un o gadarnleoedd y Gymraeg

Pryder y bydd adeiladu tai yn newid cymeriad un o gadarnleoedd y Gymraeg

Bydd cynlluniau sydd wedi arwain at wrthwynebiad chwyrn yn lleol i adeiladu 25 o dai fforddiadwy mewn pentref yng Ngwynedd yn cael eu trafod ddydd Llun.

Mae deiseb yn erbyn y datblygiad yn Chwilog wedi casglu tua 160 o lofnodion, ac mae Cyngor Cymuned Llanystumdwy wedi penderfynu’n unfrydol i wrthwynebu’r cais.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Williams Homes (Bala) Ltd ar y cyd â Grŵp Cynefin ar gyfer safle ger Brynhyfryd a Chae Capel. 

Mae’r cynllun yn cynnwys 25 o gartrefi fforddiadwy, gyda chymysgedd o fflatiau, tai a byngalos, yn ogystal â mynediad newydd i gerbydau o’r B4354 a gwaith cysylltiedig.

Bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn trafod y cais ddydd Llun.

Mae swyddogion yn argymell y dylai’r pwyllgor gymeradwyo’r cais, ar yr amod bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei gwblhau i sicrhau cyfraniadau tuag at addysg ac offer chwarae, ynghyd ag amodau eraill.

Pryderon ieithyddol

Mae’r cyngor cymuned yn pwysleisio bod Chwilog yn ardal o “bwysigrwydd ieithyddol”, ac ymhlith yr ardaloedd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.

Dywedon nhw ei bod yn “anodd integreiddio 25 o dai i’r pentref heb greu problem ieithyddol”, gan alw am sicrhau bod gan denantiaid gysylltiad lleol cryf.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor lleol: “Mae Chwilog yn bentref Cymreig, mae angen parchu hyn, fel bod hyn yn cael ei ystyried wrth osod y tai.”

Maen nhw hefyd yn galw am gyflwyno Polisi Dyrannu Lleol newydd a fyddai’n rhoi ystyriaeth benodol i’r Gymraeg wrth ddyrannu tai.

Yn ogystal â’r Gymraeg, codwyd nifer o bryderon eraill, gan gynnwys:

  • diogelwch ffyrdd a cherddwyr 
  • capasiti’r ysgol leol 
  • materion carthffosiaeth a draenio  
  • yr angen am gyfraniadau tuag at addysg a mannau chwarae 

Dywedodd rhai trigolion hefyd fod maint y datblygiad yn rhy fawr o gymharu â maint y pentref ac y gallai’r cynllun bron ddyblu nifer y tai cymdeithasol mewn cyfnod byr.

Safbwynt y cynllunwyr

Yn ôl dogfennau cynllunio, mae’r datblygiad wedi’i lunio i ddiwallu anghenion y farchnad dai leol, ac mae’r safle, i raddau helaeth, wedi’i ddynodi ar gyfer tai.

Dywed swyddogion fod “ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i’r holl sylwadau” ac maent yn credu bod y cynllun yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.