Trafod cynlluniau i ddymchwel rhan o hen westy yng Ngwynedd
Gallai cynlluniau i ddymchwel rhan o hen westy yng Ngwynedd dderbyn sêl bendith cynghorwyr Gwynedd ddydd Llun.
Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud cais am ganiatâd i ddymchwel The Corbett Arms yn Nhywyn yn raddol, a gwneud gwaith cynnal a chadw i sefydlogi’r strwythur fyddai'n parhau yno.
Fe gwympodd rhannau o gefn yr adeilad ddwywaith yn ddiweddar, ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.
Mae swyddogion y cyngor wedi argymell bwrw ymlaen gyda'r gwaith. Bydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ddydd Llun.
Cafodd y strwythur sylweddol, tri llawr, ei restru yn 1951. Fe wnaeth John a Yoko Lennon ymweld â'r gwesty ym 1969 gyda'u plant.
Yn 2009, daeth ei ddefnydd fel gwesty i ben pan gafodd ei gau.
Ychydig o waith cynnal a chadw sydd wedi’i wneud ar yr adeilad yn y blynyddoedd ers hynny, ac mae wedi parhau i fynd â’i ben iddo.
Dywedodd swyddogion y cyngor bod cyfanswm y gwaith dymchwel bellach wedi'i leihau ac mae'n ymwneud â rhan gefn yr adeilad yn unig.
Dywedodd adroddiad swyddogion y cyngor i gynghorwyr “y byddai gwneud dim ar y pwynt hwn yn anochel yn achosi difrod i'r adeilad na ellir ei adfer, a fyddai mewn amser yn golygu y byddai mwy o'r adeilad yn disgyn”.
Byddai angen cyflogi gweithiwr cadwraeth broffesiynol gymwysedig i oruchwylio a chytuno ar y fethodoleg a'r gwaith dymchwel, medden nhw.
Wrth ymateb i ymgynghoriad ar ddyfodol yr adeilad, dywedodd Y Gymdeithas Fictoraidd eu bod nhw’n parhau i bryderu am y gwaith datblygu.
“Mae'r Gymdeithas Fictoraidd yn parhau i bryderu o ddifri am ddyfodol yr adeilad,” medden nhw.
“Rydym yn pryderu nad yw'r cais hwn wedi mynd i'r afael yn ddigonol nac wedi ystyried unrhyw ailddefnydd cynaliadwy ar gyfer yr adeilad hwn, ac nid yw'n manylu ar sut y bydd yr adeilad yn cael ei wneud yn ddiogel yn yr hirdymor.”