Trafodaethau diogelwch cyn ymweliad y Brenin â'r Unol Daleithiau

Y Brenin, Brenhines, Arlywydd America a'r Fenyw Gyntaf

Mae Palas Buckingham wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau cyn ymweliad disgwyliedig y Brenin Charles III i Washington DC ddydd Llun.

Yn ôl Palas Buckingham, mae’r Brenin yn "cael ei gadw'n gwbl ymwybodol am y datblygiadau" ar ôl y digwyddiad o saethu yng Nghinio Gohebwyr y Tŷ Gwyn, nos Sadwrn.

Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd Palas Buckingham: "Bydd nifer o sgyrsiau'n digwydd drwy gydol y dydd i drafod gyda chydweithwyr yn yr Unol Daleithiau a'n timau priodol ynglŷn ag i ba raddau y gallai digwyddiadau nos Sadwrn effeithio ar gynllunio gweithredol yr ymweliad ai peidio.”

Ychwanegodd y datganiad fod y Brenin yn "falch iawn" i glywed nad oedd Donald Trump, Melania Trump a'r holl westeion eraill wedi cael eu hanafu.

Cafodd Yr Arlywydd Trump a’i wraig eu rhuthro allan o ginio yng ngwesty’r Hilton Washington DC ar ôl i ddyn danio sawl ergyd wrth geisio cael mynediad i'r neuadd yn y gwesty.

Cafodd y dyn dan amheuaeth ei enwi fel Cole Tomas Allen, 31 oed, o Galiffornia. Mae disgwyl iddo gael ei gyhuddo’n ffurfiol mewn llys ddydd Llun.

Dywedodd Twrnai Cyffredinol Dros Dro’r Unol Daleithiau, Todd Blanche, ei fod yn “hyderus iawn” y byddai’r Brenin a’r Frenhines yn ddiogel yn ystod yr ymweliad gwladol pedwar diwrnod.

Dywedodd wrth NBC News bod digwyddiadau nos Sadwrn wedi dangos bod system ddiogelwch yr Unol Daleithiau yn gweithio.

Dywedodd uwch weinidog llywodraeth y DU ddydd Sul y byddai ymweliad gwladol y Brenin â “diogelwch priodol ar waith mewn perthynas â’r risg”.

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog, Darren Jones, wrth y BBC fod y llywodraeth a Phalas Buckingham wedi bod mewn “cydweithrediad agos” â swyddogion yr Unol Daleithiau cyn y daith.

“Bydd trafodaethau pellach yn digwydd heddiw [dydd Sul] cyn yr wythnos nesaf,” meddai.

Addasiadau

Bydd y Brenin a'r Frenhines yn cael eu croesawu gan yr arlywydd yn ystod y daith - ymweliad gwladol cyntaf y DU â'r Unol Daleithiau ers ymweliad Elisabeth II yn 2007.

Y disgwyl yw y bydd y Brenin yn annerch dau dŷ'r Gyngres, ymweld â chofeb 9/11 yn Efrog Newydd a gosod torch i anrhydeddu milwyr yr Unol Daleithiau a'r DU a syrthiodd yn Virginia.

Mae'n ymddangos bod yr ymweliad brenhinol yn dal i fynd ymlaen, ond gyda rhai addasiadau posibl yng ngoleuni unrhyw bryderon diogelwch. 

Gallai hyn gynnwys ystyried rhyngweithio'r Brenin â'r cyhoedd, gan ei fod fel arfer yn hoffi cwrdd â phobl ar deithiau o'r fath.

Pan ddaeth Trump i'r DU yr hydref diwethaf, digwyddodd bron pob un o'r digwyddiadau y tu mewn i Gastell Windsor. 

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i mewn ac allan o'r castell am resymau diogelwch a chafodd ei gadw i ffwrdd o unrhyw gyswllt â'r cyhoedd.

Daw'r ymweliad ddyddiau ar ôl i adroddiadau ddod i'r amlwg y gallai'r Unol Daleithiau adolygu ei safbwynt ar sofraniaeth y DU ar Ynysoedd y Falklands.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.