Arestio menyw ar ôl i ddau blentyn ifanc farw mewn tân

25/04/2026
Tân

Mae menyw wedi cael ei harestion ar ôl i ddau blentyn ifanc farw mewn tân mewn tŷ yn Wolverhampton.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Mason yn y ddinas am tua 20.30 nos Wener ynghyd â Gwasanaeth Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr a Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Aeth diffoddwyr tân i mewn i'r tŷ i achub dau blentyn ifanc ond roedd y ddau wedi marw yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu.

Roedd dau blentyn arall a menyw eisoes allan o'r tŷ cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Nid oedd angen triniaeth ysbyty arnynt.

Cafodd y tŷ ei ddifrodi'n helaeth ac mae ymchwiliad ar y gweill i sefydlu beth achosodd y tân.

Cafodd menyw yn ei 30au ei harestio yn dilyn y marwolaethau meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Dywedodd yr heddlu ei bod wedi ei harestio ar amheuaerh o achosi neu am adael i farwolaethau’r ddau blentyn ddigwydd.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa.

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.