'Mae’ch byd yn stopio': Rhieni’n dringo’r Wyddfa er cof am eu baban fu farw'n 11 diwrnod oed
‘Mae’r galar sy’n dod o golli babi yn rhywbeth na ddylai unrhyw deulu byth fynd drwyddo’
Mae cwpl o Bontypridd wedi dringo’r Wyddfa er mwyn codi arian i elusennau sydd wedi’u cefnogi ar ôl iddyn nhw golli eu mab newydd-anedig.
Ar Noswyl Nadolig 2025 bu farw Gwilym Ioan Rees-Webb yn 11 diwrnod oed.
Mae ei rieni, Brooke Webb a Wiliam Rees, yn dal i ddisgwyl am atebion ynglŷn â beth achosodd ei farwolaeth, wrth i ymchwiliadau’r ysbyty barhau.
Bron i chwe mis yn ddiweddarach, mae Ms Webb a Mr Rees wedi cwblhau her i ddringo i gopa’r Wyddfa dros nos Wener a bore Sadwrn, er mwyn codi arian i ddwy elusen “sydd wedi bod yn hynod o bwysig i ni yn ystod cyfnod anoddaf ein bywydau,” meddai’r rhieni.
“Pan fyddwch chi’n colli plentyn, mae’ch byd i gyd yn stopio. Yn sydyn iawn, rydych chi’n ceisio ymdopi â galar tra hefyd yn gweithio allan sut i fyw bob dydd.”
I Brooke a Wil, sy’n gynghorydd sir yn Rhondda Cynon Taf, mae’r elusennau Sands a 2Wish wedi bod yn gefn iddyn nhw dros y misoedd diwethaf.
“Mae’r elusennau hyn yn camu mewn ar adeg pan mae teuluoedd yn teimlo ar goll. A hebddyn nhw, dydyn ni ddim yn gwybod sut y bydden ni yma heddiw,” medden nhw.
“Cysylltodd 2Wish â ni yn fuan iawn ar ôl i ni golli Gwilym.
“Ali o 2Wish oedd y person cyntaf i gysylltu â ni ac mae hi wedi bod yno drwy bopeth, gan gynnig cefnogaeth barhaus, ymweliadau rheolaidd, a bod yno i wrando pan oedden ni ei hangen fwyaf.
“Mae’r caredigrwydd hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth i ni geisio canfod atebion a dysgu sut i fyw bywyd ar ôl colli Gwilym.”
Ychwanegon nhw: “Mae Sands hefyd wedi rhoi cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i ni, gan ein helpu i deimlo’n llai unig drwy gysylltu ni â rhieni eraill sy’n deall poen colli babi.
“Mae eu grwpiau cymorth wedi rhoi cysur i ni mewn cyfnod hynod o anodd. Mae eu cefnogaeth i rieni sy’n ymgyrchu dros newid i achub bywydau babanod a gwella gofal i deuluoedd mewn profedigaeth wedi bod yn hynod bwysig i ni hefyd.”
Codi arian
Ar ôl penderfynu ymuno â’r her arbennig i godi arian i’r elusennau, mae’r cwpl eisoes wedi codi bron i £7,500 ar eu tudalen GoFundMe.
“Dyna pam mae rhoi yn ôl yn golygu cymaint i ni. Os gallen ni helpu i godi arian fel bod teuluoedd eraill yn derbyn yr un gefnogaeth ag rydyn ni wedi’i chael, yna dyna rywbeth hoffem ni ei wneud,” meddai Ms Webb a Mr Rees.
“Rydym wedi cael ein cyffwrdd gymaint gan faint o gefnogaeth rydym wedi’i derbyn gan ffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach.”
Galw am 'achub mwy o fywydau'
Mae elusen Sands yn galw ar y llywodraeth nesaf yng Nghymru i osod targedau er mwyn “achub mwy o fywydau babanod”.
Dywedodd Clea Harmer, Prif Weithredwr Sands: “Mae teuluoedd mewn galar a Sands wedi bod yn galw am dargedau i achub mwy o fywydau babanod yng Nghymru ac am ofal iechyd meddwl gwell yn dilyn colli babanod.
“Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i ddyfodol lle mae llai o fabanod yn marw, a lle mae pawb yn cael y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu haeddu.”
Dywedodd yr elusen fod “anghydraddoldebau rhanbarthol” ar draws Cymru i deuluoedd sy’n ceisio cael mynediad at gymorth arbenigol.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: “Mae diffyg enfawr o ofal a chymorth i bobl sy’n profi colli beichiogrwydd neu fabi yng Nghymru. Mae gormod o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn methu â derbyn y gofal tosturiol y maent yn ei haeddu pan fydd eu babi yn marw – ar y pryd yn yr ysbyty, ac yn yr wythnosau a’r misoedd dilynol.
“Yn aml, mae gan gymunedau mwy gwledig lai o fynediad at gymorth arbenigol, ac anaml y caiff gwasanaethau eu teilwra i anghenion y gwahanol gymunedau ledled Cymru.”
‘Anrhydeddu bywyd Gwilym’
Ychwanegodd Adam Bate, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu 2Wish: “Rydyn ni’n credu na ddylai neb wynebu eu galar ar eu pen eu hunain, ac rydyn ni yma cyhyd ag y bydd angen cefnogaeth arnyn nhw.
“Mae’r gwaith codi arian y mae Brooke a Wil wedi’i wneud er cof am eu mab, Gwilym, yn hynod ystyrlon i ni.
“Mae’n anrhydeddu bywyd Gwilym ac yn ein helpu i barhau i gefnogi eraill ledled Cymru pan fydd eu byd yn newid am byth.
“Bydd eu cryfder a’u haelioni yn gwneud gwahaniaeth parhaol i’r rheini sydd angen cefnogaeth yn ystod adeg anoddaf eu bywydau.”
Yr Wyddfa
Dechreuon nhw’r daith i gopa uchaf Cymru dros nos er mwyn ei gyrraedd cyn i’r haul godi.
“Roedd gallu bod yno, yn cefnogi ein gilydd wrth wylio’r wawr, yn brofiad na fyddwn byth yn ei anghofio.
“Dewison ni ddringo’r Wyddfa oherwydd ei fod yn rhywbeth nad oedden ni erioed wedi’i wneud o’r blaen. Daeth y cyfle gyda Sands i wneud y her hon gyda grŵp o rieni a theuluoedd eraill yn yr un sefyllfa.
“Roedd hyn yn gyfle i ni gyd gofio ein babis, a chodi arian ac ymwybyddiaeth am achos mor bwysig.”
Mae’r profiad o golli babi yn rhywbeth sydd “wedi newid pob rhan o’n bywydau fel teulu,” meddai Brooke a Wiliam.
“Nid yw galar byth yn eich gadael, ac nid oes ffordd gywir nac anghywir o ddelio ag e.
“Rydym yn dal i ddysgu sut i fyw heb Gwilym, ond mae gwneud pethau i anrhydeddu ei fywyd yn un o’r ffyrdd rydyn ni’n cadw’n agos ato, ac yn cadw ei gof yn fyw.”
Os ydy'r erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael ar wefan Cymorth S4C.
