Galw ar bobl i gael 'mwy o ddealltwriaeth' o gyflwr Sglerosis Ymledol

Newyddion S4C
Grace

Mae cystadleuydd ar gyfres y Llais ar S4C wedi apelio ar bobl i gael "mwy o ddealltwriaeth" o gyflwr Sglerosis Ymledol (Multiple Sclerosis neu MS).

Dywedodd Grace Sanders, sydd yn byw yn y Swisdir gyda'i theulu, ei bod hi wedi cael ei herio gan aelod o'r cyhoedd am ddefnyddio lle parcio i'r anabl am nad oedd arwydd allanol bod y cyflwr arni.

Mae arolwg gan Gymdeithas MS Cymru yn awgrymu bod 84% o bobl gyda'r cyflwr gafodd eu holi wedi clywed sylwadau tebyg i "nad oedden nhw yn edrych yn sâl."

Mae'r Gymdeithas yn galw ar bobl i ddysgu mwy am y cyflwr yn ystod wythnos ymwybyddiaeth MS.

Mae Sglerosis Ymledol yn gyflwr hir dymor ble mae'r system imiwnedd yn ymosod ar y nerfau yn yr ymennydd a llinyn yr asgwrn y cefn, ac mae'n niweidio'r haenen o myelin sydd yn eu hamddiffyn. 

Mae'r cyflwr yn medru effeithio ar deimlad, symudedd, golwg a chydbwysedd. Mae 150,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda'r cyflwr, ac mae'n effeithio ar dros 6,100 o bobl yng Nghymru.

Un arall sydd yn byw gydag MS yw Angharad Lloyd, 49 oed, o Flaenffos yn Sir Benfro. Cafodd hi ddiagnosis yn 2018, er bod y symptomau arni am chwe mlynedd a hanner cyn hynny. Dywedodd ei bod hi'n anodd i gael meddygon yn yr ysbyty i gredu bod ganddi ddiffyg teimlad yn ei chymalau.

"We ni'n byw gyda rhannau o'r corff jyst yn mynd yn numb. Ac unwaith roedd y numbness yna, doedd e ddim yn mynd bant. Un extreme we ni moyn defnyddio rhywbeth, torri croen, i ddangos bod fi ffili teimlo. Wnes i ddim o hynny ond roedd e'n mynd mor bell a hynny. Roedd e'n ofnadwy. O ni'n teimlo fy mod i yn mynd off fy mhen."

Mae Angharad yn mwynhau cadw'n heini ac yn paratoi ar gyfer her y Tri Chopa ym mis Mehefin. Ond mae'n dweud bod MS yn glefyd anodd i fyw gyda oherwydd mae'r symptomau yn "anweladwy."

"Fi'n credu bod rhai pobl yn meddwl, wel mae hi'n mynd mas i redeg neu mae hi yn mynd i'r gym, Mae hi'n mynd i nofio. Drych beth mae hi'n neud. Sdim byd yn bod.So nhw yn gorfod gweld beth dw i'n gorfod gwneud i gyrraedd y pwynt yna. 

"Dw i wedi gweithio yn galed ers 14 mlynedd i gyrraedd ble ydw i nawr, a sai moyn colli fe. Se ni ddim wedi gwneud y ffitrwydd am y chwe mlynedd a hanner yn ymladd am ddiagnosis bydden ni ddim cystal a beth ydw i nawr."

Image
angharad lloyd.jpg
Angharad Lloyd

Dywedodd y gantores Grace Sanders ei bod hi wedi gofyn am gael cadair wrth berfformio yn ystod cyfres y Llais am ei bod hi'n cael trafferth sefyll am gyfnodau hir.

"Dyna'r problem rili, achos dw i yn edrych yn healthy ac mae neb yn edrych arna i a meddwl o mae rhywbeth yn digwydd yna fan'na ond dw i yn cael problem sefyll i fynd am lot o amser a felly mae'n bwysig i fi deimlo yn comfortable. Dyna pam wnes i ofyn am gadair i gael eistedd i lawr. Mae'n ddim problem, mae'n normal."

Cafodd 90 o bobl gydag MS yng Nghymru eu holi gan Gymdeithas MS Cymru ar gyfer yr wythnos i godi ymwybydiaeth o'r cyflwr.

Mae arolwg Cymdeithas MS Cymru yn awgrymu bod:

-57% o gleifion yn osgoi defnyddio cyfleusterau arbennig fel toiledau i bobl anabl rhag ofn y byddan nhw yn cael eu herio neu eu beirniadu

-31% yn dweud eu bod nhw yn ofni gadael y tŷ am eu bod nhw yn ofni cael eu beirniadu

-73% yn dweud eu bod nhw yn teimlo fel eu bod nhw'n cael eu beirniadau neu eu trin yn wahanol oherwydd eu cyflwr.

-24% wedi cael eu heirio neu eu beirniadu am ddefnyddio tŷ bach i'r anabl.

-22% wedi cael eu herio am ddefnyddio lle parcio ar gyfer bathodynnau glas yn unig.

Image
Dafydd Wyn
Dafydd Wyn

Mae’r cyflwynydd teledu Dafydd Wyn yn byw gyda’r cyflwr ers 5 mlynedd ac mae’n lysgennad Cymdeithas MS Cymru. 

"Mae’n rhaid i fi ddweud pan wnes i ddarllen yr ystadegau ges i dipyn o sioc. Dw i yn meddwl mai’r ystadegyn wnaeth sefyll mas i fi mwyaf i fi oedd bod rhywun wedi poeri arno am barcio mewn gwagle bathodyn glas. Sai’n meddwl mewn unrhyw sefyllfa bod hwnna yn iawn," meddai.

"Mae MS yn fwy aml na pheidio yn o’r cyflyrrau yna ble mae’r symptomau yn anweledig. Chi ffili gweld os mae rhywun yn byw mewn poen. Chi ffili gweld os mae rhywun methu sefyll neu gerdded achos bod nhw yn eistedd lawr. Mae wythnos fel hon yn bwysig. 

Ychwanegodd: "Mae’n rhoi cyfle i bobl i ni feddwl falle oce, efallai nad yw’r person yma cweit yn iawn. Pam maen nhw yn parcio yn fan’na ? Pam mae nhw yn defnyddio’r toiled hygyrch ? 

"Mae’n gyfle i ail-asesu ac ail feddwl a falle ddim barnu a pharchu pobl yn fwy wrth wneud hynny. Gobeithio wrth addysgu pobl byddwn ni yn gallu parchu pobl bach mwy yn y dyfodol.”

Mae Grace Sanders wedi apelio ar bobl i ddangos "mwy o ddealltwriaeth" o bobl sydd ag MS, sylw sydd yn cael ei gefnogi gan Angharad Lloyd.

"Mae fe'n anabledd anweladwy a mae hwnna mor greulon ar ben gorfod cael yr anabledd yn y lle cyntaf. Dw i yn deall byddai pobl yn camu bant o lefydd achos hynny," meddai. 

"So ni yn gwybod beth mae pobl yn gorfod mynd trwyddo. Fi'n lwcus ar y funud ond sdim i ddweud na allai hynny newid yn yr wythnos, mis, blwyddyn, 10 mlynedd. Sdim un ohonyn ni yn gwybod."

Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru, Shelley Elgin yn dweud bod byw gyda'r cyflwr yn medru bod yn "flinedig ac yn anwadal" ac mae'n bwysig bod pobl yn cymryd yr amser i wrando, dysgu a deall mwy am yr afiechyd.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.