Carchar i ddyn ifanc o Fangor am dorri i mewn i gartref cwpl oedrannus
Mae dyn ifanc o Fangor wedi ei garcharu am gyfanswm o dair blynedd a phedwar mis am dorri i mewn i gartref cwpl oedrannus yn Amlwch, Ynys Môn.
Cafodd Callum Junior Jones, 19 oed, o Ffordd Llandygai, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon yn gynharach yr wythnos hon. Roedd wedi cyfaddef i ddau gyhuddiad o fyrgleriaeth a lladrad.
Derbyniodd ddedfryd o ddwy flynedd ac wyth mis am y troseddau.
Clywodd y llys fod Jones, ym mis Tachwedd 2025, wedi torri i mewn i bortsh a garej y cwpl cyn diffodd eu cyflenwad nwy, gan eu gadael heb wres yng nghanol y gaeaf.
Aeth ymlaen i achosi difrod pellach yr un noson drwy dorri i mewn i sied gyfagos.
Roedd Jones eisoes wedi derbyn dedfryd wedi’i gohirio'n flaenorol ac mae'r ddedfryd honno wedi ei gweithredu o ganlyniad i'w droseddau diweddaraf.
Wrth ymateb i’r achos, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Erin Davies fod Jones yn adnabyddus yn lleol am achosi problemau.
Ychwanegodd y byddai’r ddedfryd yn “rhyddhad” i’r dioddefwyr ac yn rhoi sicrwydd i drigolion yr ardal.
Yn ogystal â’r ddedfryd o garchar, cafodd Jones orchymyn atal am 10 mlynedd er mwyn amddiffyn y dioddefwyr.