Y nifer uchaf eto o balod ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro
Mae'r nifer uchaf erioed o balod wedi cael eu cofnodi ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro yn ôl cadwraethwyr.
Dywedodd swyddogion Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru eu bod wedi cofnodi 52,019 o balod yn eu cyfrifiad blynyddol eleni, gan guro'r record flaenorol o 43,626 a osodwyd y llynedd.
Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi yn dilyn y cyfrif blynyddol, sy'n cynnwys tîm o gadwraethwyr yn cychwyn ar noson dawel, glir yn y gwanwyn gyda binocwlars a llyfrau nodiadau i gyfrif pob pâl ar dir, yn yr awyr a'r môr.
Rhaid amseru'r cyfrif yn y tymor iawn i sicrhau bod y rhan fwyaf o'r adar wedi dychwelyd ond cyn iddynt setlo ar wyau yn eu tyllau, lle nad oes modd eu gweld.
Dywedodd Leighton Newman, warden Ynys Sgomer ar gyfer yr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt, nad oedd y tîm wedi disgwyl cyfrif mor uchel â'r un a ganfuwyd ganddynt eleni.
Roedd hyn ar ôl i niferoedd o adar môr gael eu golchi ar draethau ledled de Ewrop yn gynharach eleni, meddai.
“Mae'n syndod dymunol iawn gweld poblogaeth y pâlod yn ffynnu,” meddai.
“Mae niferoedd y palod yn gostwng mewn llawer o safleoedd ledled y DU, ond mae Sgomer yn mynd yn groes i'r duedd – a diolch i waith monitro hirdymor yr ydym yn gwybod hyn.
“Mae'n arbennig bod Sgomer yn lloches i gynifer o adar môr, ac mae'n fraint gallu gweithio i'w hamddiffyn, ond rydym am weld poblogaethau adar môr yn ffynnu ledled y DU.”