Dyn wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych

Prestatyn

Mae dyn wedi'i anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhrestatyn. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Victoria yn y dref am 17.36 brynhawn dydd Llun yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Vauxhall Mokka a cherddwr. 

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn Stoke ar ôl dioddef anafiadau sydd yn peryglu ei fywyd. 

Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Victoria ar y pryd ac a allai fod â lluniau dash-cam, i gysylltu â  swyddogion gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000311780.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.