Sgandal Mandelson: Cyn was sifil y Swyddfa Dramor 'ddim yn deall y rhesymau am ei ddiswyddo'
Mae cyn was sifil yn y Swyddfa Dramor yn dweud nad yw'n "deall yn iawn" y rhesymau y tu ôl i'w ddiswyddo ar ôl pryderon am y broses o wirio camau diogelwch Peter Mandelson fel Llysgennad yr Unol Daleithiau.
Roedd Syr Keir Starmer wedi rhoi'r bai ar Syr Olly Robbins a'i ddiswyddo am ei gadw yn y niwl yn "fwriadol" am fethiant yr Arglwydd Mandelson i basio camau gwirio diogelwch cyn derbyn y swydd yn Washington DC.
Roedd yr Arglwydd Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau am naw mis cyn i fanylion newydd am ei berthynas gyda Jeffrey Epstein ddod i'r golwg.
Dywedodd Syr Olly Robbins wrth aelodau'r Pwyllgor Materion Tramor fore dydd Mawrth fod yna "ddisgwyliad cryf iawn, iawn" gan Rif 10 fod Peter Mandelson "angen bod yn ei swydd ac yn America cyn gynted â phosib".
Ychwanegodd fod y broses o wirio camau diogelwch eisoes ar waith pan y gwnaeth ddechrau yn ei swydd ym mis Ionawr 2025.
"Roedd y diwydrwydd dyladwy (due diligence) wedi cael ei gwblhau gan Swyddfa'r Cabinet," meddai.
Fe wnaeth yr Arglwydd Mandelson dderbyn statws fod ei gamau diogelwch wedi eu gwirio er gwaethaf pryderon a gafodd eu codi gan Fetio Diogelwch y DU (UKSV), sef yr asiantaeth arbenigol sydd yn cynnal y gwiriadau perthnasol ar unigolion.
Dywedodd Syr Olly nad oedd wedi gweld y ddogfen UKSV yn ymwneud â Peter Mandelson, ond ei fod wedi derbyn brîff ar eu canfyddiad gan brif swyddog diogelwch y Swyddfa Dramor.
Ychwanegodd ei fod wedi cael ei friffio fod yr UKSV wedi ystyried fod achos Peter Mandelson yn un "ar y ffin".
Fe wnaeth pennaeth diogelwch y Swyddfa Dramor asesu y gallai'r risgiau gael eu "rheoli a'u lliniaru".
Diswyddo
Dywedodd hefyd nad oedd yn "deall yn iawn" y rhesymau y tu ôl i'w ddiswyddo, ac ei fod yn "hynod o drist" amdano.
Wrth gael ei holi am ei ymateb i'r ffordd y cafodd ei drin, dywedodd wrth y Pwyllgor Materion Tramor: "Yr ateb byr yw nad ydw i'n deall yn iawn y rhesymau pam fy mod i yn y sefyllfa yr wyf ynddi, ond mae honno yn broses ar-wahan i geisio ei deall."
Dywedodd Syr Olly ei fod yn difaru na chafodd rhai o'r problemau yn ymwneud â phroses glirio Peter Mandelson eu cyflwyno iddo cyn iddo gael ei ddiswyddo.
"O ran rhai o'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud gan y Prif Weinidog ac eraill am y penderfyniadau gan y Swyddfa Dramor a fy atebolrwydd i - dwi'n difaru na chafodd y rhain eu cyflwyno i mi cyn i mi dderbyn llythyr yn fy niswyddo," meddai.
Ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi herio Syr Olly Robbins am pam yr aeth yn groes i argymhelliad proses Gwirio Diogelwch y DU.
“Gofynnais iddo ac ni dderbyniais ei esboniad,” meddai Syr Keir wrth Dŷ'r Cyffredin.
“Dyna pam y gwnes i ei ddiswyddo.”
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd na fyddai wedi penodi’r Arglwydd Mandelson pe bai wedi gwybod bod yr arglwydd wedi methu’r gwiriadau a mynnodd nad oedd unrhyw bwysau gan Rhif 10 i sicrhau fod y penodiad yn mynd yn ei flaen yn groes i'r cyngor arferol.
