Achosion o ddwyn tanwydd cerbydau wedi codi 62% mewn blwyddyn

Petrol - Erik McLean - Unsplash

Mae achosion o ddwyn tanwydd o bwmpiau petrol a disel wedi codi 62% o'i gymharu â blwyddyn yn ôl, yn dilyn y cynnydd sydyn mewn prisiau o ganlyniad i'r ymladd yn y Dwyrain Canol.

Mae ffigyrau newydd gan y cwmni atal lladradau tanwydd Pay My Fuel yn awgrymu bod y gyfradd wythnosol gyfartalog o yrru i ffwrdd heb dalu fesul garej wedi cynyddu o 2.1 ym mis Mawrth 2025 i 3.4 yn yr un mis eleni.

Dywedodd y cwmni, sy'n darparu gwasanaeth i 1,400 o fodurdai sy'n gwerthu tanwydd, fod gwerth cyfartalog y tanwydd a gafodd ei ddwyn fesul digwyddiad wedi codi 46% dros yr un cyfnod.

Ers i'r rhyfel rhwng America ac Israel yn erbyn Iran ddechrau ar 28 Chwefror, mae cost llenwi car teuluol cyffredin sy'n dal 55 litr o danwydd wedi codi £14 am betrol a £27 am ddisel.

Mae troseddau gyrru i ffwrdd yn cynnwys rhywun yn llenwi tanc gyda thanwydd heb unrhyw fwriad i dalu, ac yna'n gadael.

Dywedodd un perchennog garej fod y broblem yn costio £2,000 yr wythnos iddo ar draws pum lleoliad.

Dywedodd Ian Wolfenden, cyfarwyddwr Pay My Fuel, wrth y BBC fod achsion o yrru i ffwrdd wedi mynd yn “llawer gwaeth”.

Dywedodd: “Roedd achosion o yrru i ffwrdd gan un o’n cwsmeriaid yn arfer bod yn £56, ac mae bellach wedi codi i £67.

“Felly os ydych chi’n ystyried eu bod nhw’n colli bron i £70 bob dau ddiwrnod, nid yw’n beth dibwys.”

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.