O Gaernarfon i Gaerdydd: Dau dractor yn teithio Cymru ar gyfer elusen
Bydd grŵp yn gyrru hen dractorau 529 milltir o Gaernarfon i Gaerdydd ar gyfer elusen.
Fe fydd clwb Cardi Cranks o Geredigion yn gyrru dau hen dractor o gwmpas Cymru er mwyn codi arian ar gyfer elusen Ymchwil Canser Cymru.
Mae'r Cardi Cranks wedi adfer y ddau dractor, sydd wedi eu henwi'n Siôn a Sian, ac wedi’u paentio mewn lliwiau Ymchwil Canser Cymru ar gyfer y digwyddiad
Fe fydd y daith yn gweld y ddau hen dractor Ferguson yn teithio o Gastell Caernarfon i Gastell Caerdydd.
Dros gyfnod o saith diwrnod, fe fydd Siôn yn teithio i’r dwyrain o Gastell Caernarfon ac yna i’r de ar hyd yr A5 i gyrraedd Betws-y-Coed, ac ymlaen i Llangollen cyn ymuno â’r A483 i gyrraedd Y Trallwng ac wedyn i Llanfair-ym-Muallt.
Ar yr un pryd, bydd Sian yn cychwyn o Gastell Caernarfon ac yn teithio i’r de i lawr yr A487 i Borthmadog a Dolgellau, Aberystwyth ac ymlaen i Aberteifi.
Ar y pumed diwrnod, fe fydd Siôn yn gadael Llanfair-ym-Muallt i fynd i Aberhonddu ac yn ymuno â’r A479 i gyrraedd Pontypridd ac wedyn ymlaen i’r A470 i gyrraedd Sain Ffagan.
Bydd Sian yn ymweld â San Clêr cyn ymuno â’r A40 ar gyfer y daith i Abertawe ac wedyn ymuno a’r A483 ac A48 i yrru i Sain Ffagan.
Bydd y ddau dractor yn cyrraedd Caerdydd ar 28 Mehefin.
Dywedodd Gill Evans o Cardi Cranks: "Mae hwn yn fenter sydd wedi codi ein calonnau wrth iddym adfer y ddau dractor bach Ferguson. Mae gan y ddau beiriant hanes cyfoethog a chymeriad, a mae eu gweld yn cael eu adnewyddu ar gyfer y siwrnai hon fydd yn teithio ar hyd tirweddau hardd Cymru wedi bod yn ysbrydoledig.
