Syr Keir Starmer i wynebu rhagor o bwysau yn San Steffan am sgandal yr Arglwydd Mandelson
Fe fydd Syr Keir Starmer yn wynebu diwrnod heriol arall yn San Steffan wrth i sgil effaith sgandal penodiad yr Arglwydd Peter Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau barhau i daflu cwmwl gwleidyddol dros y Prif Weinidog.
Bydd cyfle gan Syr Olly Robbins i ymateb i Syr Keir Starmer o flaen un o bwyllgorau mwyaf blaenllaw y Senedd yn ddiweddarach
Roedd Syr Keir wedi beio yr uwch was sifil a'i ddiswyddo am ei gadw yn y niwl yn "fwriadol" am fethiant yr Arglwydd Mandelson i basio camau gwirio diogelwch cyn derbyn y swydd yn Washington DC.
Bydd aelodau Tŷ'r Cyffredin yn craffu yn fanylach ar ymdrechion diweddaraf y Prif Weinidog i gyflwyno ffeithiau'r sgandal ddydd Mawrth, wrth i ASau gynnal dadl frys ar benodiad yr Arglwydd Mandelson.
Pwyllgor Materion Tramor
Yn gred yw y bydd Syr Olly, oedd hyd at yr wythnos diwethaf y gwas sifil uchaf yn y Swyddfa Dramor, yn dweud wrth y Pwyllgor Materion Tramor fod y Llywodraeth wedi rhoi pwysau arno i glirio'r Arglwydd Mandelson, er gwaethaf perthynas yr arglwydd gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Roedd yr Arglwydd Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau am naw mis cyn i fanylion newydd am ei berthynas ag Epstein ddod i'r golwg.
Mae papur newydd The Times wedi adrodd mai bwriad Syr Olly Robbins o flaen y pwyllgor fydd i ddatgelu nad oedd wedi gweld yr argymhelliad ffurfiol gan swyddogion na ddylid rhoi caniatâd i'r Arglwydd Mandelson, gan fynnu mai dim ond proses ymgynghorol yn unig yw proses Gwirio Diogelwch y DU (UKSV).
Ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi herio Syr Olly Robbins am pam yr aeth yn groes i argymhelliad proses Gwirio Diogelwch y DU.
“Gofynnais iddo ac ni dderbyniais ei esboniad,” meddai Syr Keir wrth Dŷ'r Cyffredin.
“Dyna pam y gwnes i ei ddiswyddo.”
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd na fyddai wedi penodi’r Arglwydd Mandelson pe bai wedi gwybod bod yr arglwydd wedi methu’r gwiriadau a mynnodd nad oedd unrhyw bwysau gan Rhif 10 i sicrhau fod y penodiad yn mynd yn ei flaen yn groes i'r cyngor arferol.
