Carcharu treisiwr 'hynod beryglus' am 23 o flynyddoedd

Michael Allen

Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei gael yn euog o dreisio. 

Cafwyd Michael Allen, 45 oed, o Bort Talbot, yn euog ym mis Mawrth o bedwar cyhuddiad o dreisio yn erbyn dau o blant. 

Roedd y ddau ddioddefwr o dan 18 oed ar adeg troseddu Allen. 

Cafodd Allen ei ddedfrydu i 23 mlynedd o garchar dydd Llun. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Penny Romanello o Heddlu De Cymru: “Mae’r ymchwiliad trylwyr hwn wedi dangos bod Michael Allen yn ddyn hynod beryglus sy’n gallu cyflawni troseddau rhywiol erchyll yn erbyn plant. 

“Mae ei ddau ddioddefwr wedi bod trwy brofiad ofnadwy; ni allwn hyd yn oed ddechrau deall y difrod y mae wedi’i achosi iddynt yn gorfforol ac yn feddyliol. 

“Rydym yn eu canmol ill dau am eu dewrder wrth siarad am droseddau Michael Allen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.