Galw ar ymwelwyr i beidio â cherdded i fyny rheilffordd yr Wyddfa
Mae perchnogion Trên Bach yr Wyddfa wedi galw ar ymwelwyr i beidio â defnyddio’r trac fel llwybr i gyrraedd copa’r mynydd.
Mae trac y rheilffordd yn rhedeg yn agos at lwybr poblogaidd Llanberis tua’r brig, ond mae galwadau ar ymwelwyr i beidio â’i ddefnyddio.
Dywedodd cwmni Rheilffordd yr Wyddfa fod cerdded arno yn beryglus ac yn achosi difrod i’r trac, sy’n costio symiau “anferth” i’w drwsio.
Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar ddydd Llun 6 Ebrill 1896, sy’n golygu ei bod newydd ddathlu 130 mlynedd ers agor.
“Gan mai rheilffordd hanesyddol sydd dros 130 oed yw hon, mae cost cynnal a chadw’r trenau yn enfawr, yn enwedig gan nad yw llawer o’r darnau ar gael i’w cynhyrchu bellach,” meddai’r cwmni.
“Mae cost cynnal a chadw’r trac ei hun hefyd yn anferth.
“Dydyn ni ddim yn codi pris uchel ar deithwyr er mwyn gwneud elw mawr, ond oherwydd mai dyna sydd ei angen i gadw’r rheilffordd i fynd.
“Am resymau diogelwch, dydy trac y rheilffordd ddim yn addas ar gyfer cerdded, ac rydyn ni’n gofyn yn garedig i ymwelwyr ddefnyddio’r llwybrau cerdded dynodedig, sydd wedi’u cynllunio’n benodol at y diben hwnnw.”
Yr hanes
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r lein ym mis Rhagfyr 1894, pan dorrwyd y dywarchen gyntaf, a pharhau tan fis Chwefror 1896, gyda chyfanswm cost adeiladu o £63,800 (sy'n cyfateb i dros £7 miliwn mewn arian heddiw).
Ar y daith gyntaf yn ôl i lawr y mynydd, daeth trên â dau gerbyd oddi ar y trac a syrthio i lawr ochr y mynydd, a bu farw un teithiwr ar ôl neidio o'r cerbyd.
Mae nifer o drenau gwahanol, sy’n rhedeg ar stêm a diesel, wedi mynd a dod i gopa’r Wyddfa ar hyd y blynyddoedd, ac mae miliynau wedi gwneud y daith hefyd, yn ogystal â bod yn destun cân a wnaed yn adnabyddus gan Hogia Llandegai yn yr 1960au.
Erbyn hyn, mae'r rheilffordd yn adnabyddus ar draws y byd am ei bod yn gweithredu ar rai o lethrau mwyaf serth y DU ac mewn rhai o’r amodau tywydd mwyaf eithafol.
Mae'r gwasanaethau’n cael eu cyfyngu yn ystod y tywydd mwyaf eithafol am resymau iechyd a diogelwch, ac mae'r lein fel arfer ar gau rhwng mis Tachwedd a chanol mis Mawrth.
