Addewidion pleidiau llai Cymru ar gyfer etholiad y Senedd
Gyda llai na thair wythnos i fynd tan etholiad y Senedd, mae holl bleidiau gwleidyddol Cymru wedi amlinellu eu cynlluniau i’r etholwyr.
Bydd pleidleiswyr yn mynd i orsafoedd pleidleisio ar 7 Mai i fwrw eu pleidlais, gan ddewis y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol maen nhw am eu gweld yn cynrychioli eu hardal yn y Senedd.
Mae chwe phrif blaid wleidyddol yng Nghymru, ond mae sawl plaid lai hefyd.
Er bod y prif bleidiau wedi rhoi ymgeiswyr ymlaen ym mhob etholaeth, nid felly y mae hi ymysg y pleidiau llai na’r ymgeiswyr annibynnol.
Dyma grynodeb o brif addewidion y pleidiau llai Cymru ar gyfer Etholiad y Senedd.
Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr ym mhob etholaeth yma.
Y Blaid Dreftadaeth
Y Blaid Dreftadaeth (Heritage Party) yw’r unig blaid lai yng Nghymru sy’n sefyll ym mhob un o 16 etholaeth Cymru. Maen nhw wedi rhoi un ymgeisydd ymlaen ym mhob ardal heblaw Afan Ogwr Rhondda, lle bydd dau yn sefyll.
Dywed y blaid fod eu polisïau yn seiliedig ar “amddiffyn ein diwylliant a’n treftadaeth”. Gellir gweld eu maniffesto llawn yma.
Ymhlith eu polisïau ar gyfer Etholiad y Senedd mae cael gwared ar addysg rhywioldeb gynhwysfawr, rhoi diwedd ar fewnfudo a dod â’r defnydd o HMOs (tai amlfeddiannaeth) i ben.
Maen nhw’n dweud eu bod yn erbyn targedau sero net ac yn erbyn parhau â’r polisi terfyn cyflymder 20mya.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydden nhw’n diddymu’r Senedd pe baen nhw’n cael eu hethol.
Gwlad
Mae Gwlad yn sefyll mewn chwe etholaeth.
Dywed y blaid eu bod nhw “yn y pen draw o blaid annibyniaeth i Gymru”. Gellir gweld eu maniffesto llawn yma.
Ymhlith eu prif bolisïau mae torri’r gyfradd uwch o dreth incwm ac ehangu addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Dywed maniffesto’r blaid y byddai cyllid i fyfyrwyr ar gyfer addysg prifysgol yn cael ei gyfyngu i’r rhai sy’n astudio yng Nghymru.
O ran iechyd, maen nhw’n dweud mai eu blaenoriaeth gyntaf fyddai cryfhau darpariaeth gofal sylfaenol er mwyn lleihau’r pwysau ar ofal eilaidd.
Yn y maes hwnnw bydden nhw’n edrych ar fodelau busnes amgen, fel gwasanaethau cyflogedig ar gyfer meddygon teulu a deintyddion.
Y Blaid Agored
Bydd pum ymgeisydd o’r Blaid Agored yn sefyll ar draws tair etholaeth.
Dywed y blaid mai eu blaenoriaeth yw “gwneud gwleidyddiaeth yn agored i’r cyhoedd” a sicrhau bod eu cynrychiolwyr yn “atebol i’r bobl”.
Yn hytrach na chael maniffesto plaid penodol, mae pob ymgeisydd yn cyflwyno ei faniffesto unigol ei hun.
Dywed y Blaid Agored fod hyn yn gwneud ymgeiswyr yn “annibynnol ac yn rhydd o unrhyw agenda pleidiol”.
Mae ymgeiswyr hefyd yn cael eu dewis gan y cyhoedd yn yr ardal maen nhw am ei chynrychioli. Gellir gweld manylion eu hegwyddorion yma.
Propel
Mae Propel yn sefyll mewn dwy etholaeth.
Mae eu maniffesto yn dechrau drwy ddweud nad yw “democratiaeth Cymru yn gweithio” ac y bydden nhw’n cyflwyno nifer o “ddiwygiadau democrataidd”.
Mae’r rheini yn cynnwys Prif Weinidog Cymru sy’n ei ethol yn uniongyrchol a chael gwared ar gyrff fel yr Ombwdsmon a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ymhlith eu prif bolisïau mae diddymu’r gyfradd dreth incwm ychwanegol o 45% a darparu hyd at £1,500 y mis i rieni plant 0–2 oed sy’n dewis gofalu am eu plentyn gartref.
O ran iechyd, mae Propel yn credu mewn “gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar atal salwch” ac yn dweud y bydden nhw’n cyflwyno gwiriad iechyd blynyddol i bawb yng Nghymru.
Mae modd gweld eu maniffesto llawn yma.
Clymblaid Undebau Llafur a Sosialaidd - TUSC
Bydd pum ymgeisydd TUSC yn sefyll yn Etholiad y Senedd mewn dwy etholaeth.
Ymhlith eu prif addewidion mae ymgyrch fawr i adeiladu tai cyngor yn ogystal â chryfhau rheolaethau rhent.
Maen nhw hefyd am geisio gwladoli cwmnïau ynni yng Nghymru ac yn gwrthwynebu preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG.
O ran addysg, fe fydden nhw’n diddymu ffioedd dysgu prifysgol, cyflogi mwy o athrawon a chyfyngu maint dosbarthiadau i 20 o ddisgyblion. Gellir gweld eu maniffesto llawn yma.
Plaid Gomiwnyddol Cymru
Bydd dau ymgeisydd o Blaid Gomiwnyddol Cymru yn sefyll mewn dwy etholaeth.
Ymhlith prif bolisïau’r blaid mae sefydlu Awdurdod Datblygu Economaidd Cenedlaethol i Gymru i gynllunio buddsoddiad a diogelu swyddi.
Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac yn dod â gwasanaethau ynni, rheilffyrdd a bysiau o fewn perchnogaeth gyhoeddus.
Bydden nhw hefyd yn dod â Ystâd y Goron i berchnogaeth gyhoeddus.
Maen nhw’n dweud eu bod yn gwrthwynebu preifateiddio unrhyw ran o’r GIG ac y bydden nhw’n creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Gellir gweld eu maniffesto llawn yma.
Pleidiau sy’n sefyll mewn un etholaeth yn unig
- Plaid Gristnogol Cymru
- Plaid Lafur Sosialaidd
- Plaid Monster Raving Loony
- Plaid Ddemocrataidd Sosialaidd
Mae yna hefyd 30 o ymgeiswyr annibynnol yn sefyll yn Etholiad y Senedd ar draws 14 etholaeth.