Prydain i ailymuno gyda chynllun addysg Ewropeaidd Erasmus+
Bydd myfyrwyr, prentisiaid a phobl ifanc yn gallu astudio a gweithio ledled Ewrop unwaith eto, wrth i'r DU a'r Undeb Ewropeaidd lofnodi cytundeb cyfreithiol ym Mrwsel ddydd Mercher i ddod â'r DU yn ôl i mewn i gynllun Erasmus+ yn 2027.
Mae disgwyl i dros 100,000 o bobl elwa yn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys prentisiaid ar leoliadau mewn cwmnïau Ewropeaidd, grwpiau ysgol sy'n cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid diwylliannol, a sefydliadau sy'n cydweithio ar fentrau newydd.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd y Gweinidog Sgiliau Jacqui Smith o Lywodraeth y DU: "O ddysgu iaith i feithrin hyder a phrofiad gwaith, mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd trawsnewidiol i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc.
"Mae cenedlaethau o bobl wedi elwa o'r cyfleoedd y mae gweithio ac astudio dramor yn eu cynnig, ac rwyf mor falch y gall myfyrwyr, prentisiaid, addysgwyr a phobl ifanc heddiw brofi popeth sydd gan Ewrop i'w gynnig."
Daw hyn wrth i'r llywodraeth gyhoeddi bod y Cyngor Prydeinig ar fin dod yn Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+ yn y DU.
Bydd yn cefnogi sefydliadau sy'n gwneud cais i'r rhaglen ac yn helpu myfyrwyr, prentisiaid, addysgwyr a phobl ifanc i wneud y gorau o gyfleoedd ledled Ewrop, cyn i'r Comisiwn Ewropeaidd gadarnhau ei benodiad yn derfynol yn ddiweddarach eleni.
Mae hyn yn dilyn gwaith y Cyngor Prydeinig fel Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ y DU, rhwng 2014 a 2020, pan fu'r corff yn goruchwylio mwy nag 8,000 o brosiectau, gan ymgysylltu â mwy na 580,000 o bobl ifanc.
Dywedodd Scott McDonald, Prif Weithredwr y Cyngor Prydeinig: "Fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+, bydd y Cyngor Prydeinig yn cydweithio'n agos â'r Adran Addysg, y Llywodraethau Datganoledig a'r Comisiwn Ewropeaidd i wneud y gorau o gyfleoedd y rhaglen i'r DU.
"Mae gan Erasmus+ hanes o newid bywydau, agor profiadau dysgu, rhoi cipolwg ar ddiwylliannau, a meithrin dinasyddiaeth fyd-eang.
"Bydd y rhaglen o fudd enfawr i amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd ledled y DU, gan roi iddynt olwg fyd-eang ac ystod eang o sgiliau."