Y BBC i ddiswyddo hyd at 2000 o staff

BBC/PA

Mae penaethiaid y BBC wedi dweud eu bod yn bwriadu diswyddo hyd at 2,000 o weithwyr.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn cyfarfod o holl staff y BBC am 15.00 ddydd Mercher oedd yn cael ei arwain gan Rhodri Talfan Davies - cyfarwyddwr cyffredinol dros dro y BBC.

Fe allai'r cyhoeddiad effeithio ar 10% o holl weithlu'r BBC, sydd yn cyflogi 21,500 o weithwyr ar hyn a lled y byd.

Hwn fyddai'r gostyngiad mwyaf yn niferoedd ei gweithwyr ers toriadau dwfn i'r gorfforaeth yn 2011.

Mewn datganiad brynhawn Mercher, dywedodd Mr Talfan Davies bod y BBC yn "wynebu pwysau ariannol sylweddol".

"Yn syml, mae’r bwlch rhwng ein costau a’n hincwm yn tyfu," meddai.

"Mae hyn yn cael ei yrru gan nifer o ffactorau: mae chwyddiant cynhyrchu yn parhau’n uchel iawn; mae ein ffi drwydded a’n hincwm masnachol dan bwysau; ac mae’r economi fyd-eang yn parhau’n ansefydlog.

"Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae angen i ni arbed £500 miliwn ychwanegol o’n cyfanswm costau gweithredu blynyddol o £5 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf, gyda’r rhan fwyaf o’r arbedion newydd yn ofynnol yn 2027/28."

'Ansicrwydd gwirioneddol'

Ychwanegodd Mr Talfan Davies: "Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn golygu lleihau nifer y swyddi yn y BBC. Er bod angen i ni weithio drwy’r manylion o hyd, rydym yn rhagweld y bydd nifer y swyddi yn gostwng rhwng 1,800 a 2,000. 

"Rwy’n gwybod bod hyn yn creu ansicrwydd gwirioneddol, ond roeddem am fod yn agored am yr her."

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd pennaeth undeb Bectu, Phillipa Childs: "Bydd toriadau o’r maint hwn yn ddinistriol i’r gweithlu ac i’r BBC cyfan.

"Mae’r BBC wedi wynebu toriadau cyllido dros y degawd diwethaf gydag incwm termau real o’r ffi drwydded yn gostwng £1.3bn. Mae’n anochel y bydd toriadau pellach o’r raddfa yma yn niweidio ei gallu i gyflawni ei chenhadaeth gyhoeddus.

"Mae staff y BBC eisoes dan bwysau sylweddol ar ôl diswyddiadau blaenorol a bydd Bectu yn ymgysylltu â’r BBC i ddeall goblygiadau’r toriadau hyn yn llawn."

Ychwanegodd: "Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ecosystem ehangach y diwydiannau creadigol, o ystyried rôl angor hanfodol y BBC wrth gomisiynu cynnwys a meithrin talent.

"Mae'n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod Adnewyddu’r Siarter yn rhoi cyllid y BBC ar lwybr mwy diogel a hirdymor ac atal ein darlledwr cenedlaethol rhag wynebu marwolaeth raddol gan fil o doriadau."

Arbed 10% o'u costau 

Mae'r penderfyniad i dorri swyddi wedi cael ei wneud cyn i Matt Brittin ymuno gyda'r BBC fel eu cyfarwyddwr cyffredinol newydd y mis nesaf.

Ym mis Chwefror, fe gyhoeddodd y BBC gynlluniau i arbed 10% o'u costau dros y tair blynedd nesaf ar draws y gorfforaeth a hefyd yn BBC Studios.

Mae'r BBC wedi dweud yn flaenorol: “Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi cyflawni arbedion gwerth mwy na hanner biliwn o bunnoedd, ac rydym wedi gallu ailfuddsoddi llawer ohonynt yn ein hallbwn ar draws y BBC.

“Mewn marchnad gyfryngau sy'n newid yn gyflym, rydym yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol. 

"O ganlyniad rydym yn disgwyl gwneud arbedion pellach dros y tair blynedd nesaf o tua 10% o'n costau.

“Mae hyn yn ymwneud â'r BBC yn dod yn fwy cynhyrchiol a blaenoriaethu ein cynnig i gynulleidfaoedd i sicrhau ein bod yn darparu'r gwerth gorau am arian, nawr ac yn y dyfodol.”

Ym mis Ionawr 2025 daeth cyhoeddiad y byddai gwasanaeth World Service y BBC yn cael gwared ar 130 o swyddi wrth iddo geisio arbed tua £6 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Wedi'i ariannu'n bennaf drwy'r ffi drwydded flynyddol o £174.50, mae'r BBC wedi wynebu pwysau dros ei werth am arian wrth iddo wynebu cystadleuaeth gan gwmnïau ffrydio rhyngwladol fel Netflix a Disney+.

Ar 1 Ebrill, cododd y ffi drwydded i £180 y flwyddyn.

Camodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, o'i swydd ar 2 Ebrill, ar ôl cyhoeddi ei ymddiswyddiad ym mis Tachwedd, yn dilyn blynyddoedd cythryblus i'r gorfforaeth.

Bydd Rhodri Talfan Davies yn arwain y gorfforaeth nes i Mr Brittin gymryd yr awenau ar 18 Mai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.