Cwest yn clywed bod corff dynes wedi'i ddarganfod mewn rhewgell

Porthcawl

Clywodd cwest ddydd Mercher bod corff menyw 89 oed wedi'i ddarganfod mewn rhewgell yn ei chartref ym Mhorthcawl ym mis Chwefror ar ôl i'w meddyg teulu ofyn i'r Heddlu fynd yno ar ymweliad lles.  

Dyw hi ddim yn glir sut y bu farw Sylvia Phillips. Cafwyd hyd i'r chorff ar 17 Chwefror.

Ma' disgwyl i Christopher Phillips, 60 oed, o Borthcawl ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau wedi' gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon, ac o dwyll trwy gam-gynrychiolaeth. 

Cafodd y cwest ei ohirio nes bod ymchwiliadau pellach wedi ei cynnal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.