Carcharu dyn am dreisio person yn ei arddegau mewn llety cymorth

Llys y Goron Caerdydd (CC by SA)

Mae dyn o Bont-y-pŵl a oedd wedi prynu arfau cyn treisio person yn ei arddegau mewn llety cymorth yn Nhorfaen wedi cael ei garcharu.

Cafodd Jay Jenkins-Lang, 23 oed, ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar gyda thrwydded estynedig o chwe blynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Ym mis Mehefin 2023, wrth gael ei hebrwng i Lys Ynadon Casnewydd gan weithwyr cymorth ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud ag arfau tanio ac arfau ymosodol, rhedodd Jenkins-Lang i ffwrdd a gadael mewn tacsi.

Fe deithiodd i Gwmbrân, gan stopio ar y ffordd i brynu gwn aer a bwledi.

Ar ôl cyrraedd y dref, fe aeth i mewn i lety cymorth ac ymosod ar berson 17 oed a oedd yn byw yno, a'i dreisio.

Cafodd Jenkins-Lang ei arestio ychydig oriau yn ddiweddarach yn gwisgo fest trywanu - gyda'r gwn, y bwledi a'r gyllell yn parhau yn ei feddiant.

Er iddo wadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, cyflwynodd Jenkins-Lang lythyr yn ei achos llys ym mis Medi 2024 a oedd yn awgrymu bod y dioddefwr yn ymddiheuro iddo - ond profwyd yn ddiweddarach ei fod yn ffug.

Dywedodd Catherine Miles o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Bu i Jay Jenkins-Lang achosi i berson yn ei arddegau oedd yn agored i niwed ddioddef trosedd erchyll.

"Ni ddangosodd unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd, gan geisio perswadio'r rheithgor bod y dioddefwr wedi dweud celwydd ac wedi cyfaddef i’w fframio mewn llythyr. 

"Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth gref oedd yn profi nad oedd y llythyr wedi dod gan y dioddefwr.

"Trwy ddewrder y dioddefwr yn dod ymlaen yr ydym wedi gallu dod â’r treisiwr hwn o flaen ei well."

Fe gafodd ei ddyfarnu'n euog o dreisio, achosi niwed corfforol gwirioneddol, bod ag arf ffug yn ei feddiant wrth gyflawni trosedd a gweithredu gyda'r bwriad o wrthdroi cwrs cyfiawnder.

Plediodd yn euog hefyd i fod â llafn yn ei feddiant, bod ag arf ffug a bwledi yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, bod ag arf troseddol mewn man cyhoeddus a chyflawni difrod troseddol.

Bydd yn rhaid i Jenkins-Lang gofrestru fel troseddwr rhyw am ei oes.

Mae hefyd wedi derbyn gorchymyn atal am gyfnod amhenodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.