Y cyflwynydd Eamonn Holmes wedi cael strôc

Eamonn Holmes

Mae'r cyflwynydd Eamonn Holmes yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael strôc. 

Cadfodd hynny ei gyhoeddi gan GB News, lle mae'r cyflwynydd o Ogledd Iwerddon bellach yn gweithio. 

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y darlledwr fod Eamonn Holmes sy'n 66 oed wedi "cael ei daro'n wael yr wythnos diwethaf a bod cadarnhad wedi dod yn ddiweddarach iddo ddioddef strôc".

"Mae e bellach yn ymateb yn dda i driniaeth," ychwanegodd y llefarydd.  

"Mae Eamonn wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddo ganolbwyntio ar wella." 

"Mae ei gydweithwyr yn dymuno gwellhad buan iddo, ac yn edrych ymlaen i'w groesawu yn ôl." 

Mae cyflwr iechyd cyn gyflwynydd rhaglen This Morning ar ITV wedi bod yn fregus yn y blynyddoedd diwethaf, gyda phroblemau gyda'i gefn a'i goes, sy'n effeithio ar ei allu i gerdded. 

Cafodd ei gludo i ysbyty wedi iddo gwympo yn ei gartref, ac fe syrthiodd hefyd oddi ar ei gadair yn ystod darllediad byw ar GB News.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.