Elis James i berfformio ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

Elis James - Headshot.jpg

Fe fydd y digrifwr Elis James yn perfformio ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni.

Yn enedigol o ardal Eisteddfod y Garreg Las, bydd Elis yn dychwelyd i’w filltir sgwâr gan berfformio ar lwyfan y pafiliwn am y tro cyntaf.

Fe fydd mynediad i'r gig ar 5 Awst am ddim gyda thocyn Maes. 

Cafodd Elis ei eni yn Hwlffordd a’i fagu yng Nghaerfyrddin. Mae’n ddigrifwr, cyflwynydd podlediadau, actor a darlledwr.

Ers 2014, mae’n cyflwyno sioe radio gyda’i ffrind a’i gyd-ddigrifwr John Robins, yn wreiddiol ar Radio X cyn symud i BBC 5 Live yn 2019.

Dywedodd Elis: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Sai erioed wedi gwneud stand-yp yn y Pafiliwn o’r blaen. Bydd Mam ‘na, dwi’n siŵr bydd aelodau eraill o’r teulu ‘na hefyd, ond peidiwch becso, fi’n un o’r bobl na sy’n ddoniol o dan bwyse!”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Mae’n bleser cael croesawu Elis adref i ardal y Garreg Las. Fel un o gewri comedi Cymru, rydym yn edrych ymlaen at noson o hiwmor a chwerthin sy’n adlewyrchu gwir ysbryd yr Eisteddfod.”

Teithiodd Elis drwy Gymru gyda’i sioe gomedi, Derwydd yn 2024, gan recordio sioe fel rhan o’r daith honno yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin. 

Yn ddiweddar, mae wedi ailddechrau perfformio stand-yp drwy gyfrwng y Saesneg ar ôl dros ddegawd o seibiant.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd, gogledd Sir Benfro o 1-8 Awst eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.