Arolwg yn 'helpu gwarchod adar' ar draeth ger Bangor

Traeth Lafan

Mae arolwg ar draeth ger Bangor wedi helpu i warchod rhywogaethau o adar sydd yn gaeafu yno.

Cafodd arolwg gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei gwblhau ar Draeth Lafan yn ddiweddar er mwyn "gwella dealltwriaeth o sut mae gweithgareddau dynol yn tarfu ar yr adar yno".

Dywedodd CNC mai nod y gwaith oedd archwilio pam bod rhywogaethau fel piod môr a gylfinirod wedi lleihau eu defnydd o'r mannau lle maen nhw'n gaeafu dros y blynyddoedd diwethaf.

Fel rhan o'r gwaith, roedd archwilwyr yn cofnodi pa mor aml roedd adar yn defnyddio'r mannau clwydo, pa mor aml roeddynt yn cael eu tarfu arnyn nhw, a pha weithgareddau oedd fwyaf tebygol o greu aflonyddwch iddyn nhw.

Dywedodd CNC bod y dystiolaeth a gafodd ei chasglu drwy'r arolwg "yn helpu i nodi pa weithgareddau sy'n peri'r risgiau mwyaf i'r rhywogaethau sensitif yma" ac yn llywio penderfyniadau er mwyn ceisio diogelu'r poblogaethau adar sy'n dewis gaeafu ar y traeth.

Yn ôl Dewi Evans, Swyddog Arbenigol ar Reolaeth Rhynglanwol Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r adar ar y traeth yn rhan o "dreftadaeth naturiol" Cymru.

"Mae Traeth Lafan yn gartref i rai o adar gaeafu mwyaf gwerthfawr Cymru, gan gynnwys piod môr, gylfinirod a rhywogaethau eraill sy'n rhan o'n treftadaeth naturiol," meddai.

"Bydd yr arolwg hwn yn cryfhau ein dealltwriaeth o'r pwysau maen nhw'n eu hwynebu, a bydd y dystiolaeth sy'n cael ei chasglu yn ein helpu i wneud penderfyniadau sy'n diogelu'r lle arbennig hwn ar gyfer y dyfodol."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.