Canu emyn gan Dyfed Evans yn dilyn ei farwolaeth yn 100 oed
Bydd aelodau o Ysgol Sul yng Ngwynedd yn cofio am gyfraniad 'dyn arbennig' i'w ardal, drwy berfformio emyn a gafodd ei chyfansoddi ganddo.
Fe fydd plant yr Ysgol Sul ym Mhencaenewydd ger Pwllheli yn canu'r emyn a gafodd ei ysgrifennu gan y diweddar Dyfed Oswald Evans yn dilyn ei farwolaeth yn 100 oed.
Roedd Mr Evans yn cael ei adnabod yn bennaf am ei gyfraniad i bapur bro Eifionydd Y Ffynnon lle fu’n cyfrannu straeon ers dechrau'r papur yn 1976.
Bu’n gweithio am gyfnod i bapur newydd Y Cymro dan olygyddiaeth y diweddar John Roberts Williams, cynhyrchydd y ffilm ddogfen Yr Etifeddiaeth.
Ac yntau wedi byw ym Mhencaenewydd ers dros hanner canrif, roedd Mr Evans hefyd yn aelod ffyddlon o gapel y pentref a’r gymuned ehangach.
Er cof amdano, bydd aelodau o Ysgol Sul Pencaenewydd yn canu un o’i emynau diweddaraf yn Eisteddfod y Groglith y capel ddydd Gwener.
Daeth Gad I’m Glywed yn fuddugol yng nghystadleuaeth cyfansoddi geiriau emyn y gylchwyl yn 2024 - un o nifer o’i emynau buddugol dros y blynyddoedd.
Dywedodd Owenna Hughes, sy’n aelod o’r capel: “Mae ‘na golled yn naturiol ar ei ôl, roedd o’n gymaint o ran o’r pentref a bob dim oedd yn mynd ymlaen yno, yn ddyn arbennig.
“Mi oedd o’n ifanc ei ffordd, yn gwneud efo pawb o’r fengaf i’r hynaf – a fo oedd yr hynaf digwydd bod.
“Mi oedd o’n Yncl Dyfed i genedlaethau o oedolion a phlant.”
'Giamstar ar ddod o hyd i stori dda'
Cafodd Mr Evans ei eni ym Mynytho ym Mhen Llŷn.
Roedd yn briod â'i wraig Doris am dros 70 mlynedd.
Roedd yn dad i Robin, Emyr ac Aled, ac yn daid a hen daid balch i’w wyrion a’i wyresau.
Dywedodd y Parchedig Aled Davies o Chwilog ei fod wedi dod i adnabod Mr Evans dros 20 mlynedd yn ôl pan ddaeth yn weinidog ardal.
“Roedd Dyfed a Doris yn rhan ganolog o holl agweddau bywyd y capel – yn ffyddlon i’r oedfa bob amser, yr Ysgol Sul, y gymdeithas a’r gylchwyl,” meddai.
“Mae ‘na gyfoeth wedi dod o’i stabal gynhyrchiol – yn gerddi, brawddegau, limrigau, a heb anghofio’r emynau.”
Roedd y Parchedig Davies hefyd yn cydweithio â Mr Evans ar bapur Y Ffynnon.
“Dwi ddim yn siŵr faint o ffan oedd e yn y dechre o’r ymwneud hynny,” meddai.
“Fe wnes i ddod i mewn i stori’r Ffynnon pan ddaeth hi’n adeg symud drosodd i fyd digidol, ond golygodd hynny wrth gwrs bod gwaith y criw siswrn a Pritt Stick yn dod i ben, gyda’r hwyl a chymdeithasu yn cael ei golli wrth osod y copi at ei gilydd.
“A rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, pan aeth Y Ffynnon i fod yn bapur lliw llawn, roedd datblygiadau technolegol yn golygu bod y peiriant yn casglu a styffylu heb orfod gwneud dim – ac eto daeth cyfnod y plygu i ben. Fel dyn papur newydd profiadol, roedd 'na ffordd arbennig o osod – papur tair colofn ydi o i fod, medde droeon, tra bod y dylunydd newydd yn amrywio’r colofnau o fewn y papur i greu amrywiaeth.
“Ond chwarae teg, fe ddaeth i weld bod y cyfan hyn yn y pen draw yn gwella’r diwyg a’r safon, ac roedd mor falch o’i bapur, ac wedi cyfrannu at bob un rhifyn hyd at y misoedd olaf hyn.
“Roedd yn giamstar ar ddod o hyd i stori dda, a’r bensel a’r rwber wrth law bob amser i gofnodi hynny. Mi o’n i’n rhyfeddu i ddeud y gwir sut roedd e yn llwyddo i ysgrifennu gyda phensal oedd ond yn stwmpyn modfedd neu lai.”
Ychwanegodd: “Yr hyn sy’n rhyfeddol yw ei fod wedi croesi’r canrif, ond tan y dyddiau diwethaf mi oedd ei feddwl o mor chwim ac effro i bob dim oedd yn digwydd o’i gwmpas.
“Oedda chi’n gallu sgwrsio ‘da fe am hanes neu’r hyn oedd yn digwydd heddiw ac oedd e a’i fys ar bwls popeth oedd yn digwydd.
“A felly fyddwn ni’n ei gofio, felly fyddwn ni’n diolch amdano ac felly hefyd fydda ni’n ei golli fo, achos ‘da ni’n sylweddoli bod gymaint o hanes ac atgofion wedi’u colli drwy ei farwolaeth.”
Gyda'r Ffynnon yn dathlu ei 50 mlwyddiant eleni, bydd cyfrol arbennig yn cael ei chyhoeddi er cof am Mr Evans.
Llun: Y Ffynnon
