Ffermwr wedi marw ar ôl cael ei wasgu yn erbyn wal

Llys y Crwner Rhuthun

Mae cwest wedi clywed bod ffermwr wedi marw ddechrau'r mis, ar ôl iddo gael ei ddal rhwng peiriant chwistrellu a wal wrth ymyl sied wartheg.

Agorodd y cwest yn Rhuthun i farwolaeth Peter Hughes, 46 oed, o Fferm Whitegate ger Wrecsam fore Llun.

Dywedodd y crwner John Gittins fod hynny wedi digwydd ger sied wartheg.

Roedd yn ymddangos bod Mr Hughes wedi’u ddal gan beiriannau tractor. 

Roedd tystiolaeth o anaf  gwasgu er bod penderfyniad am achos y farwolaeth wedi cael ei ohirio er mwyn i ragor o brofion gael eu cynnal. 

Dywedodd Mr Gittins fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu. 

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.