Effaith y rhyfel yn y Dwyrain Canol yn taro pocedi yng Nghymry
Effaith y rhyfel yn y Dwyrain Canol yn taro pocedi yng Nghymry
Qatar neithiwr ac ardal ddiwydiannol Ras Laffan ar dan ar ôl cael ei thargedu gan daflegrau o Iran.
Dial mae Iran wedi'i Israel ladd un arall o'u harweinwyr ac ymosod ar faes nwy naturiol De Pars, y mwya'n y byd.
"Mae hwn yn neud y broblem yn rhywbeth byd-eang. Ni'n son am un o feysydd pwysica'r byd.
"Bob tro mae rhywun yn clywed y seiren ar y ffon am 3.00yb, am 6.00yb, am hanner dydd neu 3.00yp mae 'na densiwn.
"Unwaith mae rhywun yn clywed y seiren mae 'na deimlad, beth sy'n dod ac o le mae'n dod?
"Mae cael rhywbeth fel 'na yng nghefn y meddwl yn blino person."
Gydag ymosodiadau'n parhau yn y Dwyrain Canol mae nifer o'r Cymry sydd wedi'u cartrefi yma 'di dychwelyd gartref.
"Amser o'ch chi'n clywed y ffrwydradau o rai'n glanio er bod nhw 20 i 25 milltir i ffwrdd, ro'dd yn swn yn echrydus.
"Dw i 'di bod yn cael hunllefau dros yr wythnos ddiwethaf yn teimlo fy mod yn clywed synau o ffrwydradau ac adeiladau ar dân amser dyw hynny ddim yn digwydd ond mae yn y meddwl.
"Ar hyn o bryd, rwy'n cadw llygad ar y newyddion ond sdim hast o gwbl i fynd nôl.
“Byddwn ni yma nes bod y sefyllfa wedi tawelu.
"Gobeithio am gadoediad parhaol a bod hynny'n dala am amser sylweddol cyn bod ni'n mentro nôl."
Ddydd Sadwrn, bydd hi'n dair wythnos union ers dechrau'r rhyfel.
Mae miloedd wedi'u lladd a miloedd wedi gadael eu cartrefi ac economiau ar draws y byd wedi cael eu taro'n galed.
Ar ôl tair wythnos o frwydro, sdim diwedd mewn golwg o hyd i'r bennod waedlyd ddiweddaraf yn hanes y Dwyrain Canol.
Er bod Israel ac America wedi bod yn ymosod ar y cyd ar Iran mae Donald Trump yn mynnu nad oedd e'n gwybod o flaen llaw am ymosodiad yr Israeliaid ar faes nwy De Pars.
Mae'n mynnu na fydd ymosodiadau arall tebyg o nawr 'mlaen.
"I told them, "Don't do that," and he won't do that. We didn't discuss.
"We're independent, we get along great and it's co-ordinated.
"On occasion, he'll do something and if I don't like it, we're not doing that any more."
Mae ymosodiadau Iran ar isadeiledd ynni gwledydd y Gwlff a'r rhwystrau yng Nghulfor Hormuz yn cael effaith fyd-eang.
Ym Mhrydain, mae costau nwy wedi codi dros 20% ac olew tua 50% yn ddrytach nawr na chyn y gwrthdaro.
"Y sioc fwyaf o'dd fel aeth y prisiau lan ar unwaith.
"Aethon nhw lan yr wythnos gyntaf 15c ac mae 'di mynd lan 15c arall.
"Mae'n costi i'r cwmni i redeg y fflyd yma, £64,000 yn fwy'r wythnos ddiwethaf na beth o'dd hi cyn y rhyfel."
Yn y Dwyrain Canol, mae taflegrau'n dal i gael eu tanio bywydau'n dal i gael eu chwalu.
O Gymru i Qatar ac ar draws y byd mae sgil-effeithiau'r rhyfel yma'n dal i frathu.