Craig Bellamy eisiau 'parhau â gwaddol Gary Speed' cyn gemau ail-gyfle Cwpan y Byd
Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy eisiau "parhau â gwaddol Gary Speed" wrth i'w garfan baratoi i wynebu Bosnia a Herzegovina yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd nos Iau.
Mewn rhaglen ddogfen ecsgliwsif i S4C, mae Bellamy yn dweud fod dylanwad y diweddar Gary Speed "mor enfawr" yn ystod ei gyfnod fel rheolwr y tîm cenedlaethol.
Yn y rhaglen, mae Bellamy yn disgrifio'r "eiliad hollbwysig" pan welodd murlun o Gary Speed ar y ffordd i Stadiwm Dinas Caerdydd.
“Y murlun yna – dyna oedd o,” meddai.
“Dyna beth wnaeth gadarnhau o i mi. Ac yn fy meddwl wedyn o’n i fel ‘dwi’n ‘neud hyn, dwi am wneud hyn. Dwi am orffen pethau.”
Yn 2011, cafodd y byd pêl-droed ei syfrdanu gan y newyddion o farwolaeth sydyn Gary Speed yn 42 mlwydd oed.
Roedd Bellamy yn rhan o garfan Cymru pan oedd Speed yn rheolwr, ac yn gapten am gyfnod hefyd.
“Dim ond am gyfnod byr roedd Gary yma ond roedd ei ddylanwad o’n fawr. Roedd ei ddylanwad o mor fawr. Roedd ganddo’r naws yna amdano.
“Ei ddylanwad o yw llawer o’r hyn sydd i’w weld gyda’r sefydliad a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Dwi’n gweld bod ein credoau ni’n reit debyg ac mae wedi rhoi awydd go iawn i fi am y gêm.”
'Ysbrydoliaeth'
Yn y rhaglen ddogfen, mae cyn chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn dweud mai'r person yw'r peth pwysicaf i Bellamy, nid y pêl-droed yn unig.
Ym mis Chwefror 2023 roedd Joe Allen wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, ond cafodd ei alw yn ôl i'r garfan ym mis Hydref 2024 gan Craig Bellamy.
Dywedodd Bellamy ar y pryd bod "dim amheuaeth" i gynnwys Allen yn y garfan os oedd yn hapus i chwarae dros Gymru eto.
Wrth siarad yn y rhaglen ddogfen mae Allen yn dweud bod ei berthynas gyda'r chwaraewyr yn dda.
“Neges Craig oedd i symud ymlaen gyda’r pethau oedden ni wedi dysgu gan Gary," meddai.
“Mae Craig yn rheoli pobl yn dda. Y person yw’r peth mwyaf pwysig i Craig – nid dim ond y pêl-droed.”
Fe fydd Cymru yn wynebu Bosnia a Herzegovina ar 26 Mawrth yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd.
Os ydyn nhw'n fuddugol yna fe fyddan nhw'n herio naill ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y rownd derfynol - gyda'r enillydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd FIFA eleni, sy’n cael ei chynnal yn America, Canada a Mecsico.
Bydd Craig Bellamy: Byd Y Bêl A Mi ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 23 Mawrth am 20:00, gydag isdeitlau hefyd ar gael.