Gosod plac glas ar gartref actor enwog o Gastell-nedd
Mae plac glas wedi’i osod ar dŷ yng Nghastell-nedd oedd yn gartref i un o sêr Hollywood pan oedd yn blentyn.
Bu Ray Milland yn serennu gyda sêr amlwg byd y ffilmiau gan gynnwys Grace Kelly a John Wayne, ac ar un adeg fo oedd yr actor â'r cyflog uchaf gyda chwmni Paramount yn ystod gyrfa a barodd dros hanner canrif.
Mae'r plac wedi ei osod ar Heol Dalton yn y dref, sef cartref teuluol Ray Milland ers pan oedd yn bedair oed.
Cafodd arddangosfa yn Neuadd Gymuned Melincryddan, Castell-nedd ei chynnal ar ddydd Gwener 6 Mawrth, i ddathlu bywyd yr actor.
Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd ag 80 mlynedd ers i Ray Milland gipio Oscar am yr actor gorau - y Cymro cyntaf i gyflawni’r fath gamp.
Yn yr un flwyddyn, yn 1946, enillodd Wobr yr Actor Gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes, a Gwobr yr Actor Gorau yn y Golden Globes.
