'Mae'n hollol ddryslyd beth sy'n digwydd': Adroddiad arbennig ar ryfel UDA-Israel ag Iran
Mae'r newyddiadurwyr Gwyn Loader a Liam Evans yn Israel yn adrodd ar ryfel America ac Israel ag Iran ar gyfer Newyddion S4C.
Ers pum niwrnod, mae rhyfel unwaith eto yn bwrw cysgod dros y Dwyrain Canol.
Yn Iran, mae dros fil o bobl wedi cael eu lladd yn ôl un mudiad dyngarol. Yn eu plith mae arweinydd goruchaf y wlad, yr Ayatollah Khamenei.
Mae ymosodiadau’r Unol Daleithiau ac Israel ar Iran yn parhau, ac mae Iran wedi ymateb yn ffyrnig drwy danio taflegrau a gyrru dronau at wledydd ar hyd a lled y rhanbarth.
Prin yw’r cyfle i newyddiadurwyr rhyngwladol ohebu o Iran, felly pan dorrodd y newyddion am farwolaeth Khamenei ddydd Sadwrn, cefais i a fy nghydweithiwr Liam Evans neges yn gofyn a allen ni deithio i’r rhanbarth i ohebu.
Gyda meysydd awyr wedi’u cau ar draws y Dwyrain Canol, fe wnaethon ni hedfan i’r Aifft cyn gyrru drwy’r nos i Jerwsalem.
Yn Israel, mae seirennau cyson yn rhybuddio bod ymosodiadau ar y ffordd. Er bod system amddiffyn yr Iron Dome ymhlith y gorau yn y byd ar gyfer rhyng-gipio taflegrau, mae mwyafrif y bobl yma yn heidio i loches pan fydd y larwm yn canu i geisio diogelu eu hunain.
Ers i ni gyrraedd yma, mae ffrynt newydd wedi agor yn y rhyfel yma. Ar ôl i grŵp milwriaethus Hezbollah, sy’n cael ei gefnogi gan Iran, danio taflegrau at ogledd Israel i ddial am ladd yr Ayatollah, mae lluoedd Israel wedi ymateb ac wedi ymosod ar y tir dros y ffin i Libanus.
Rydw i a Liam wedi teithio i Metula - tref mwyaf gogleddol Israel - i weld y brwydro diweddaraf.
Ychydig gannoedd o fetrau tu hwnt i’r ffin, mae adeiladau yn adfeilion - prawf o ymladd ffyrnig rhwng Hezbollah a’r IDF yn y blynyddoedd diwethaf.
Pan ddes i i’r ardal hon ddiwethaf yn hydref 2024, roedd bron i bob tref a phentref wedi’u gwagio gan fod taflegrau Hezbollah yn ffrwydro yn gyson.
Mae pobl wedi bod yn dychwelyd yn araf ers cyhoeddi cadoediad bregus ar ddiwedd y flwyddyn honno.
Ond mae sŵn ffrwydradau a gynnau’n tanio i’w glywed yn glir heddiw, a mae byddin Israel wedi gorchymyn i bobl mewn pentrefi a threfi yn ne Libanus adael eu tai.
Yng nghysgod y bomio, mae strydoedd Metula yn dawel. Ond mae Chanania Trachtman yn crwydro ger ei gartref ac yn cytuno i gael sgwrs gyda ni.
“Mae hon yn ardal beryglus,” meddai. “Mae Hezbollah o gwmpas fan hyn ac yn gallu edrych lawr arnon ni.”
Ymateb i ladd yr Ayatollah oedd hyn yn ôl datganiad a gyhoeddwyd ddydd Sul. Dwi’n gofyn a yw Chanania’n deall hynny?
“Ie, dyna maen nhw’n dweud. Ond roedd hynny’n ymateb i ymosodiadau arnon ni. Mae’n gylch sy’n mynd rownd a rownd,” yw ei ateb.
Mae’n cefnogi cyrchoedd yr IDF yn Iran ac yn Libanus, ac yn mynnu mai targedu Hezbollah mae milwyr Israel.
Onid yw hi’n anorfod bod pobl gyffredin hefyd yn dioddef, dwi’n holi.
“Yn ôl y newyddion ry’n ni’n ei dderbyn, dydyn ni ddim yn targedu pobl gyffredin,” yw ei ateb.
Mae llywodraeth Israel yn mynnu bod yn rhaid iddyn nhw ymosod ar Iran ac ar Hezbollah yn Libanus er mwyn diogelu pobl eu gwlad. Ond dydy eu hunion amcanion yn y rhyfel yma ddim yn glir.
A dydy pawb yma ddim yn cytuno â’u gweithredoedd.
“Mae Netanyahu wedi troi Israel yn ‘rogue state’,” meddai Yuval Invar, sy’n gweithio i ddarlledwr cyhoeddus yma ac sydd wedi dysgu Cymraeg.
“Mae Netanyahu eisiau rhyfel ond dwi ddim eisiau rhyfel… dwi wedi blino ar ryfel.”
Erbyn hyn, ry’n ni’n dechrau cael darlun cliriach o’r sefyllfa yn Iran, ac mae dau ddyn wedi anfon negeseuon oddi yno yn disgrifio ofn a dryswch.
Dywedodd un ei fod yn clywed ffrwydradau o hyd ond nad yw e’n siŵr os yw’r sŵn yn barhaol yn ei glustiau neu a oes ffrwydradau go iawn yn digwydd.
Dywedodd nad yw e’n hapus erbyn hyn am y posibilrwydd o newid mewn llywodraeth.
“Dwi’n flinedig,” meddai, “ac yn hollol ddryslyd ynghylch beth all ddigwydd.”
Dywedodd dyn arall fod y sefyllfa’n mynd yn waeth ac yn waeth bob dydd. Fe lenwodd ei dŷ â mwg, meddai, gan ofyn pryd fydd hyn yn dod i ben.
“Dwi am i’r wlad ffynnu - a heddwch i bawb.”
Mae’n gorffen ei neges drwy ddweud ei fod yn ofnus - yn hynod ofnus.
Mae dros fil wedi marw yno, a does dim arwydd o ddiwedd yn y dyfodol agos i’r rhyfel diweddaraf yn y rhan yma o’r byd.