Ymosodiad Iran: Y Swyddfa Dramor yn rhybuddio yn erbyn teithio i'r Dwyrain Canol
Mae'r Swyddfa Dramor wedi diweddaru ei chyngor teithio i rybuddio yn erbyn teithio i Israel a Phalesteina wedi i Israel ag America gynnal ymosodiad milwrol "sylweddol" yn erbyn Iran fore dydd Sadwrn.
Mewn datganiad ar ei gwefan, dywedodd y Swyddfa Dramor: “Oherwydd y bygythiad a achosir gan y sefyllfa yn y rhanbarth, rydym yn argymell yn erbyn pob teithio i Israel a Phalesteina.
"Ar 28 Chwefror 2026, dechreuodd yr Unol Daleithiau ac Israel weithredu milwrol ar y cyd yn Iran, mae gofod awyr Israel bellach wedi cau.”
Dywedodd British Airways eu bod wedi canslo hediadau i Tel Aviv a Bahrain tan 3 Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran British Airways: “Rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos ac wedi cymryd y penderfyniad gweithredol i ganslo ein hediadau i Tel Aviv a Bahrain hyd at ac yn cynnwys 03 Mawrth ac wedi canslo gwasanaeth heddiw i Amman."
'Arhoswch tu fewn'
Mae'r Swyddfa Dramor yn annog Prydeinwyr sydd yn byw yn Israel a Phalesteina i ddilyn "rhybuddion swyddogol", gan gynnwys dilyn cyngor gan awdurdodau lleol, osgoi cyfleusterau milwrol a sicrhau bod eu dogfennau teithio wedi'u diweddaru.
Ychwanegodd y swyddfa eu bod yn rhybuddio Prydeinwyr yn Bahrain, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar a Kuwait i chwilio am loches.
"Arhoswch tu fewn mewn lleoliad diogel, osgowch bob math o deithio a dilynwch cyfarwyddiadau'r awdurdodau lleol."
Mae sawl cwmni hedfan wedi canslo hediadau i'r rhanbarth, ac yn annog teithwyr i gadw mewn cysylltiad â'u cwmnïau hedfan i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Dywedodd Qatar Airways eu bod wedi canslo eu hediadau i mewn ac allan o Doha.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid y llywodraeth a’r awdurdodau perthnasol i gefnogi teithwyr sydd wedi eu heffeithio, a byddwn yn ailddechrau hediadau pan fydd y gofod awyr yn ailagor,” meddai’r cwmni ar wefan X.
“Unwaith y bydd hediadau yn ailddechrau, rydym yn rhagweld oedi."
Rhybuddiodd Maes Awyr Gatwick bod disgwyl tarfu ar wasanaethau Qatar Airways ac Emirates ddydd Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr: “Oherwydd y sefyllfa barhaus yn y Dwyrain Canol, mae cyfyngiadau gofod awyr wedi’u cyflwyno mewn rhannau o’r rhanbarth.
“O ganlyniad, efallai y bydd rhai hediadau i ac o Gatwick wedi eu hoedi neu ganslo.
“Mae hon yn sefyllfa sy’n symud yn gyflym, ac rydym yn disgwyl tarfu ar ein hediadau Qatar Airways ac Emirates."