Cwest Betws Garmon: Merch fach wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda char ei thaid
Mae cwest wedi clywed fod merch fach un oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ei thaid ar safle gwersylla yng Ngwynedd.
Bu farw Mabel Elizabeth Baldini yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar ôl cael ei hanafu ar safle gwersylla Bryn Gloch ym Metws Garmon ar 28 Ebrill y llynedd.
Clywodd y cwest ddydd Gwener nad oedd y ferch i'w gweld wrth i'w thaid symud y car yn araf.
Dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson: "Roedd y digwyddiad ar safle gwersylla Bryn Gloch yn hollol yn gwbl anfwriadol ac annisgwyl.
"Rwyf yn ystyried fod marwolaeth Mabel yn sgil damwain ac fe fyddaf yn cofnodi'r canfyddiad yn y ffordd honno."
Fe wnaeth y crwner estyn ei "chydymdeimladau dwysaf" i deulu a phawb oedd yn adnabod y ferch fach.