Llofruddiaeth gwraig weddw ym Môn yn destun podlediad newydd

Mabel Leyshon

Rhybudd: Gallai gynnwys yr erthygl hon beri gofid

Fe fydd llofruddiaeth gwraig weddw a gafodd ei thrywanu i farwolaeth yn ei chartref ym Môn chwarter canrif yn ôl bellach yn destun podlediad newydd. 

Bu farw Mabel Leyshon yn 90 oed yn 2001 wedi iddi gael ei llofruddio yn ei chartref yn Llanfairpwll. 

Bydd Meic Parry yn cyflwyno podlediad The Anglesey Vampire Killer fel rhan o gyfres Crime Next Door gan y BBC.  

Cafodd y wraig weddw Mabel Leyshon ei thrywanu 22 o weithiau gan Mathew Hardman, oedd yn 17 oed ar y pryd ac yn byw yn lleol. 

Image
Hardman
Mathew Hardman

Yna fe wnaeth dorri ei chalon o’i chorff ac yfed ei gwaed o sosban. 

Dywedodd Heddlu’r Gogledd ar y pryd nad oeddent erioed wedi gweld trais o’r fath.

Cafodd Hardman ddedfryd o garchar am oes yn 2002 gydag isafswm o 12 mlynedd. 

Fe fydd y gyfres saith pennod o hyd yn dilyn hanes y digwyddiad a wnaeth ddychryn pentref Llanfairpwll, yn ogystal â gweddill Cymru a thu hwnt. 

Cafodd ei gomisiynu gan BBC Cymru ar gyfer platfform BBC Sounds. 

Mae modd ffrydio dwy bennod gyntaf y podlediad, gyda phob pennod yn cael ei rhyddhau yn wythnosol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.