Pêl-droediwr ifanc i gael chwarae dros Gymru ar ôl tro pedol dros ei ddinasyddiaeth

Enzo Romano

Bydd pêl-droediwr ifanc yn gallu chwarae dros Gymru ar ôl i’w gais am ddinasyddiaeth gael ei dderbyn yn dilyn brwydr hir.

Fe fydd modd i Enzo Romano gynrychioli Cymru wedi i'r Swyddfa Gartref gymeradwyo ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig ddydd Mawrth.

Dywedodd tad Enzo, Antonio, wrth Newyddion S4C ei fod yn "falch iawn" gyda'r penderfyniad.

"Mae'n newyddion gwych, rydym yn rheini balch iawn i gael mab sydd yn Gymro.

"Fel teulu rydym yn hynod gyffrous ac yn emosiynol. Mae wedi bod yn dwy flynedd anodd yn brwydro dros freuddwyd Enzo."

Ar ddechrau mis Chwefror fe wnaeth Newyddion S4C dorri'r newyddion fod y Swyddfa Gartref wedi gwrthod cais Enzo am ddinasyddiaeth Brydeinig am yr eildro.

Cadarnhaodd y Swyddfa Gartref fod yr ail gais wedi ei wrthod, ond pan gysylltodd Newyddion S4C gyda nhw eto fe ddywedodd llefarydd eu bod wedi "cytuno i ail agor yr achos er mwyn ystyried a oes tystiolaeth newydd gan y teulu i'w chyflwyno."

Ychwanegodd y Swyddfa Gartref bryd hynny eu bod yn gofyn am "wybodaeth bellach am gyfnod Antonio Romano yn y DU rhwng 2011/2012."

Ddydd Mawrth dywedodd y Swyddfa Gartref wrth Antonio Romano bod "tystiolaeth newydd" a gafodd ei chyflwyno gan y teulu yn golygu bod modd "cadarnhau bod Mr Romano yn byw a gweithio yn y DU rhwng 2011 a 2012."

Image
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Roedd penderfyniad y Swyddfa Gartref yn gwrthod yr ail gais yn wreiddiol yn nodi nad oedd gan Antonio statws preswylydd parhaol gan nad oedd yn "cyrraedd y trothwy ar gyfer person cyflogedig".

Yn ôl y Swyddfa Gartref, ennill cyflog o £7,500 y flwyddyn cyn treth am gyfnod o bum mlynedd yn olynol yw'r trothwy ar gyfer "person cyflogedig" ar y pryd, ac nid oedd Antonio wedi cyrraedd y trothwy hwn.

Mae gan Lywodraeth y DU ddogfen sydd yn gosod canllawiau ar gyfer cyflwyno cais dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer plentyn.

Nid yw'r canllawiau hynny yn nodi bod angen i berson ennill isafswm o gyflog er mwyn cael eu hystyried fel "person cyflogedig."

Cefndir Enzo

Cafodd Enzo Romano, sy'n 16 oed, ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen. 

Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru.

Pan yn wyth oed arwyddodd i Barcelona a symudodd ei deulu i Sbaen lle maen nhw'n parhau i fyw.

Fe wnaeth Enzo chwarae i glybiau Abertawe a Chaerdydd cyn arwyddo i Barcelona, ac mae wedi chwarae i amryw o dimau eraill yn y wlad.

Ar hyn o bryd mae Enzo yn chwarae i Villasar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen.

Dywedodd ei dad bod Enzo yn gobeithio symud yn ôl i'r DU a chwarae i un o glybiau Cymru neu Loegr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.