Carcharu dyn am daflu sylwedd peryglus i wyneb gwestai mewn canolfan llesiant
Mae dyn 28 oed wedi ei ddedfrydu i 18 mis o garchar, ar ôl iddo daflu sylwedd peryglus i wyneb gwestai mewn canolfan llesiant roedd o'n ei redeg yn Abercraf.
Fe blediodd Dean Mayze yn euog i achosi niwed corfforol difrifol.
Ar ôl y digwyddiad yn Rhagfyr 2022, fe wnaeth Mayze ffoi dramor, cyn cael ei arestio yn Romania y llynedd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Kiefer Price yng nghanolfan Hafan y Coed yn Abercraf ar Ragfyr 10, 2022.
Bu'n rhaid gyrru Mr Price i adran damweiniau ac achosion brys gerllaw lle cadarnhawyd ei fod wedi dioddef anafiadau cemegol i'w ddau lygad.
Roedd angen "cwrs triniaeth dwys" arno er mwyn iddo beidio colli ei olwg yn llwyr.
Wrth ddedfrydu Dean Mayze dywedodd y barnwr Geraint Walters ei fod yn "ffordd arbennig o ddrwg" o ymosod ar unigolyn.
