Rhun ap Iorwerth: Galwad am refferendwm annibyniaeth 'cyn gynted ag y bydd pobl Cymru yn barod'
Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud y byddai yn galw am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru "cyn gynted ag y bydd pobl Cymru yn barod" pe bai'n dod yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai.
Wrth siarad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg fore Sul, dywedodd Rhun ap Iorwerth "nad yw pethau cystal ag y gallent fod yng Nghymru" o dan y Blaid Lafur sydd wedi arwain bob llywodraeth y wlad ers dechrau datganoli yn 1999.
Mae'r blaid wedi dweud yn flaenorol na fyddai'n ceisio sicrhau refferendwm yn ystod eu tymor cyntaf mewn grym, pe bydden nhw'n llwyddiannus yn yr etholiad.
Roedd arolwg barn ddiweddar yn awgrymu fod cefnogaeth i Lafur wedi gostwng eto, tra bod Plaid Cymru yn parhau ar y blaen a Reform UK yn ail.
"Dw i'n meddwl ei bod hi'n wirioneddol, wirioneddol bwysig bod pobl yn edrych ar fy llygaid ac yn gweld rhywun sy'n credu ynddyn nhw," meddai Rhun ap Iorwerth.
"Dw i'n credu yn fy nghenedl, dw i'n credu ym mhobl Cymru. Yr hyn dw i eisiau ei wneud yw cael pobl i ddeall beth yw'r opsiynau, beth yw potensial ein cenedl.
"A dyna'r cyfan yw'r ddadl ar annibyniaeth. Nid yw pethau cystal ag y gallent fod yng Nghymru ar y funud."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai ei 100 diwrnod cyntaf fel Prif Weinidog Cymru yn "gwbl hanfodol".
"Mae'n golygu mynd i'r afael â materion economaidd, addysg, iechyd, ac mae'n golygu mynd â'r frwydr honno i Lywodraeth y DU," meddai.
"A hynny mewn ffordd y mae Llafur yn Llywodraeth Cymru wedi methu, neu'n amharod i'w wneud, oherwydd eu bod nhw eisiau rhwystro'r cwch rhag siglo gormod gyda'u penaethiaid Llafur yn Llundain."
Fe aeth ymlaen i ddweud y dylai Llywodraeth y DU "ddarparu setliad ariannol teg i Gymru".
Mae'n dweud ei fod eisiau system dreth lle gall dorri trethi i bobl ar incwm is, ond "dydyn ni ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd y dirwedd sydd gennym ni".
Gofynnodd Laura Kuenssberg a fyddai hynny'n golygu mwy o arian gan weddill y DU wrth alw am "gyllido mwy teg".
Dywedodd Mr ap Iorwerth mai swydd y Trysorlys yw dosbarthu cyllid mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol ardaloedd, - ac ar hyn o bryd, nid oes fformiwla "sy'n darparu’r hyn sydd ei angen ar Gymru".
'Ysbryd i wneud pethau'n wahanol'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod safonau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gostwng yng Nghymru, ond mae gan Blaid Cymru "gynllun gwirioneddol", gan gynnwys canolfannau llawfeddygol mewn gofal iechyd, ac ymgyrch addysg i fynd i'r afael â llythrennedd a rhifedd.
Mae'n dweud bod gan y blaid "ysbryd i wneud pethau'n wahanol" ac mae'n cynnig "gweledigaeth obeithiol", yn hytrach nag un o "raniad".
Ychwanegodd na fyddai ei blaid yn codi cyfraddau treth incwm, gan ddweud y gall wneud "addewid penodol" na fydd yn gwneud hynny.
Bydd etholiad Senedd Cymru, sy'n cael ei chynnal ar 7 Mai 2026, yn gweld nifer aelodau'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.
Rhwng 28 Tachwedd a 10 Rhagfyr, cafodd arolwg barn ei gynnal gan YouGov ar ran Prifysgol Caerdydd, gan holi 2,500 o oedolion yng Nghymru ar-lein.
Yn debyg i arolygon barn diweddar, mae'r arolwg yn awgrymu fod Plaid Cymru ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio, gyda 33%, a Reform UK yn ail gyda 30%.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu fod cefnogaeth Llafur wedi syrthio i 10%, o gymharu â 14% o'r arolwg barn diweddar a gafodd ei gynnal gan YouGov ac ITV Cymru ym mis Medi.
Mae'r arolwg diweddaraf yn awgrymu fod y Ceidwadwyr ar 10%, tra bod y Blaid Werdd ar 9% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.
O dan y system bleidleisio newydd a fydd yn cynnwys 96 o aelodau, mae’r arolwg yn awgrymu y bydd gan Blaid Cymru 39 o seddi, llai na’r nifer fyddai ei angen ar gyfer mwyafrif, sef 49.
Byddai hynny’n golygu bod angen clymbleidio neu ddod i gytundeb gyda phlaid neu bleidiau eraill er mwyn gallu llywodraethu.
'Dim cynllun'
Mewn ymateb i sylwadau Rhun ap Iorwerth, dywedodd Llafur Cymru mai prin yw'r manylion ar gyfer ei gynlluniau.
"Mae Plaid yn dweud y bydden nhw'n gwneud pethau'n wahanol, ond ni allant ddweud beth fydden nhw'n ei wneud na sut y bydden nhw'n talu amdano," meddai.
"Nid oes gan Reform UK na Phlaid gynllun ar gyfer Cymru ac ni fydd y naill na'r llall yn cyflawni dros bobl Cymru.
"Mae Llafur Cymru wedi diogelu gwasanaethau cyhoeddus Cymru rhag y gwaethaf o doriadau a chaledi economaidd y Torïaid, gan warchod y pethau y mae pobl yn eu dibynnu arnynt, ac fe fydd yn canolbwyntio bob amser ar gyflwyno dyfodol mwy teg i Gymru."