Yr actores Beverley Callard yn derbyn diagnosis o ganser y fron
Mae’r actores Beverley Callard wedi cyhoeddi ei bod wedi derbyn diagnosis o ganser y fron.
Mae Ms Callard, 68 oed, yn enwog am bortreadu Liz McDonald yn y gyfres opera sebon Coronation Street am dros 30 mlynedd.
Wrth ymddangos ar raglen teledu Late Late Show ar sianel RTÉ yn Iwerddon nos Wener, dywedodd bod doctoriaid wedi rhoi gwybod y bydd angen llawdriniaeth a radiotherapi arni.
"Dw i’n iawn, dw i’n hollol iawn. Roedd fy mhen wedi drysu am y diwrnodau cyntaf," meddai.
Dywedodd hefyd y bydd yn derbyn rhagor o brofion i weld os yw’r canser wedi ymledu i rannau eraill o’i chorff.
"Mae yn y cyfnodau cynnar iawn, dw i’n teithio’n ôl i’r DU fory am gwpl o wythnosau, maen nhw am brofi fy nodau lymff a chwarennau lymff a phethau fel ‘na."
Ychwanegodd Ms Callard ei bod wedi cael rôl yn yr opera sebon Gwyddelig Fair City, a bod ei gŵr a hithau yn y broses o symud tŷ i Sir Wicklow yn Iwerddon.
Llun: ITV