Cipolwg ar rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD
Mae Cwpan Cymru JD yn hollol agored eleni wedi i’r Seintiau Newydd a Chei Connah gael eu gyrru allan yn y drydedd rownd, ac felly bydd yr wyth clwb sydd ar ôl yn y gystadleuaeth yn benderfynol o fachu ar y cyfle i godi’r cwpan a sicrhau eu lle’n Ewrop.
Dydd Sadwrn, 31 Ionawr
14:00 - Dinas Bangor 1876 (3) v Caerau Trelai (2)
14:00 - Y Fflint (1) v Bae Trearddur (3)
14:00 - Y Rhyl 1879 (2) v Y Barri (1)
17:15 - Caernarfon (1) v Bae Colwyn (1)
Mae hanner y clybiau sydd ar ôl yn y gystadleuaeth yn aelodau o’r Cymru Premier JD, a bydd dau o’r rheiny, sef Caernarfon a Bae Colwyn yn cyfarfod ar Barc Maesdu brynhawn Sadwrn.
Y ddau dîm arall o’r haen uchaf yw’r Barri a’r Fflint, sef yr unig glybiau ar ôl yn y gystadleuaeth sydd wedi codi’r cwpan yn y gorffennol.
Bydd Y Barri yn teithio i’r gogledd i wynebu Y Rhyl 1879 o’r ail haen, tra bydd Y Fflint yn croesawu Bae Trearddur o’r drydedd haen i Gae-y-Castell.
Dinas Bangor 1876 sydd ar frig Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin (haen 3), a nhw yw’r unig glwb yng Nghymru sydd heb golli gêm y tymor hwn.
Ar ôl curo timau o’r ail haen yn y dair rownd ddiwethaf, bydd y Dinasyddion yn gobeithio achosi sioc arall yn erbyn un o glybiau cryfaf Cynghrair y De, Caerau Trelai.
Dinas Bangor 1876 (3) v Caerau Trelai (2) | Dydd Sadwrn – 14:00
Mae yna gyfoeth o hanes ac atgofion o lwyddiannau Cwpan Cymru ym Mangor gan i’r tlws gael ei godi ar wyth achlysur gan y Dinasyddion, ond gyda’r hen glwb gwreiddiol wedi ei ddiddymu, mae’r olynwyr bellach yn awyddus i efelychu campau’r clwb a fu.
Mae Dinas Bangor 1876 yn eistedd ar frig Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin, a nhw yw’r unig dîm yng Nghymru sydd heb golli gêm y tymor hwn (ennill 28, cyfartal 2).
Dechreuodd taith y Dinasyddion yn y rownd ragbrofol gyntaf, ac ers hynny mae tîm Michael Johnston wedi trechu tri chlwb o’r ail haen, sef Cegidfa, Treffynnon a Trefelin.
Y daith hyd yma:
Dinas Bangor 1876: Mochdre (3-1), Conwy Swifts (0-12), Llanelwy (0-6), Cegidfa (cos 1-1), Treffynnon (2-1), Trefelin (2-0)
Caerau Trelai: Penydarren (0-5), Morriston (3-0), Dolgellau (0-2), Llandudno (2-1)
Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y clybiau ac mi fydd y tîm sy’n bedwerydd yng Nghynghrair y De yn gobeithio dod y clwb cyntaf i guro Dinas Bangor 1876 y tymor hwn.
Mae Caerau Trelai wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf am yr ail dymor yn olynol, ond ar ôl colli yn erbyn Cei Connah yn y rownd yma llynedd, bydd carfan Dean Wheeler yn benderfynol o fynd gam ymhellach eleni a chyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf erioed.
Bydd hyder yr ymwelwyr yn uchel ar ôl curo Adar Gleision Trethomas o 5-1 y penwythnos diwethaf, gyda’r ymosodwr Daniel Griffiths yn taro hatric i’r clwb o ardal Caerdydd.
Ond bydd angen i amddiffynwyr Caerau gadw llygad ar flaenwr newydd Bangor, Declan McManus, fydd yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb ddydd Sadwrn.
Enillodd Declan McManus, Gwpan Cymru ddwywaith yn ei gyfnod gyda’r Seintiau Newydd rhwng 2021-25, a’r Albanwr oedd enillydd Esgid Aur y Cymru Premier JD am ddau dymor yn olynol.
Gadawodd y Seintiau i ymuno â Coleraine ym mis Ionawr 2025, ond ar ôl blwyddyn yng Ngogledd Iwerddon mae McManus yn dychwelyd i ogledd Cymru ar gyfer her newydd yn nhrydedd haen y pyramid Cymreig.
Mae’r ddau glwb wedi llwyddo i osgoi clybiau’r Cymru Premier JD yn y gwpan hyd yma, a pe bae Bangor yn ennill brynhawn Sadwrn yna nhw fyddai’r clwb cyntaf o’r drydedd haen i gyrraedd y rownd gynderfynol ers i Treffynnon wneud hynny 12 mlynedd yn ôl.
Y Fflint (1) v Bae Trearddur (3) | Dydd Sadwrn – 14:00
Dyma’r trydydd tro i’r Fflint gyrraedd yr wyth olaf yn y 15 mlynedd diwethaf, ond dyw’r clwb heb fynd ymlaen i’r rownd gynderfynol ers tymor 1953/54 pan guron nhw Caerdydd, cyn trechu Caer yn y rownd derfynol ar y Cae Ras.
O’r timau sy’n weddill, Y Fflint yw’r unig glwb sydd wedi curo tîm o Chwech Uchaf y Cymru Premier JD yn y gystadleuaeth eleni (Pen-y-bont), a dyw’r Sidanwyr heb ildio gôl yn eu tair gêm gwpan hyd yma.
Y daith hyd yma:
Y Fflint: Bow Street (0-3), Airbus UK (1-0), Pen-y-bont (0-0 cos)
Bae Trearddur: Llangefni (3-5), Berriw (0-3), Brychdyn (0-6), Glyn-nedd (2-5), Dinas Casnewydd (5-3)
Bae Trearddur yw’r tîm isaf ar ôl yn y gystadleuaeth (7fed yng Nghynghrair Ardal Gogledd Orllewin) ac felly dyw hi ddim yn syndod mae dyma’r tro cyntaf i’r clwb gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru.
Mae Bae Trearddur wedi denu cryn dipyn o sylw yn yr wythnosau diwethaf am y rhesymau anghywir ar ôl i’r amddiffynnwr Thomas Taylor gael ei ddal ar gamera yn ymddangos fel pe bai’n taflu penelin at chwaraewr o Borthmadog.
Ers hynny, mae Taylor wedi cael ei ryddhau gan Fae Trearddur ac mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Daeth y digwyddiad anffodus yma dim ond ychydig wythnosau ar ôl i Fae Trearddur dderbyn cosb o driphwynt am chwarae chwaraewr anghymwys mewn gêm gynghrair.
Tydi hi heb fod yn gyfnod hawdd i’r Bae felly, fydd yn gobeithio troi’r gornel brynhawn Sadwrn yn un o gemau mwyaf holl hanes y clwb.
Blaenwr Bae Trearddur, Tom Hilditch fydd yr un i’w wylio brynhawn Sadwrn, gan mae fo yw prif sgoriwr y gystadleuaeth eleni gyda 10 o goliau mewn pum gêm, yn cynnwys hatric yn erbyn Glyn-nedd.
Fel Bangor, bydd Bae Trearddur yn gobeithio bod y clwb cyntaf o’r drydedd haen i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru ers i Treffynnon wneud hynny yn nhymor 2013/14.
Y Rhyl 1879 (2) v Y Barri (1) | Dydd Sadwrn – 14:00
Mae Y Rhyl 1879 wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers i’r tîm newydd gael ei ffurfio yn 2020, ond enillodd hen glwb Y Rhyl y cwpan ar bedwar achlysur.
Ben Lightfoot (4) yw prif sgoriwr Y Rhyl yn y gystadleuaeth eleni gan i’r chwaraewr canol cae sgorio unwaith ym mhob rownd i’r Lilisgwynion y tymor yma.
Mae Y Rhyl 1879 yn eistedd yn y 7fed safle yn eu tymor cyntaf yng Nghynghrair y Gogledd ar ôl sicrhau dyrchafiad i’r ail haen dros yr haf.
Y daith hyd yma:
Y Rhyl 1879: Pwllheli (1-3), Brickfield (1-0), Cwmbrân (3-2), Porthmadog (1-2)
Y Barri: Aberystwyth (0-5), Llanelli (0-6), Gresffordd (4-0)
Mae’r Barri yn mwynhau tymor safonol ar ôl cadarnhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd, cyrraedd wyth olaf Cwpan Cymru, a rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.
Mae tîm Steve Jenkins wedi hedfan i’r wyth olaf eleni drwy sgorio 15 gôl ac heb ildio unwaith, ac mae’r blaenwr Ollie Hulbert yn amlwg yn mwynhau’r gystadleuaeth gan iddo sgorio saith gôl mewn tair gêm hyd yma.
Record amddiffynnol Y Barri yw un o’r gorau yng Nghymru y tymor yma gan i’r Dreigiau gadw llechen lân yn hanner eu gemau hyd yn hyn (15 llechen lân mewn 30 gêm ym mhob cystadleuaeth).
Mae’r Barri wedi codi’r cwpan ar bedwar achlysur gan ennill y gystadleuaeth deirgwaith yn olynol rhwng 2001 a 2003, ond dyw’r Dreigiau heb gyrraedd y rownd gynderfynol ers saith mlynedd.