Llofrudd Robert F. Kennedy yn debygol o gael ei ryddhau o'r carchar
28/08/2021
Fe allai'r dyn a gafwyd yn euog o lofruddio Robert F. Kennedy gael ei ryddhau o'r carchar.
Ddydd Gwener, pleidleisiodd panel bwrdd parôl yng Nghaliffornia o blaid cais Sirhan B. Sirhan, 77 oed, i gael ei ryddhau o'r carchar ar barôl.
Daw hyn dros 50 mlynedd ers iddo gael ei arestio a'i gael yn euog o lofruddio Robert F. Kennedy, brawd y cyn-Arlywydd John F. Kennedy.
Dywed rhai bod llofruddiaeth Robert F. Kennedy yn bosib o fod wedi newid cwrs hanes America gan mai fe oedd ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, adrodda'r Washington Post.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Jac de Nijs / Anefo