Dau o bobl wedi marw oddi ar arfordir Dwyrain Swydd Efrog
Mae dau o bobl wedi marw a thrydydd person yn parhau ar goll ar ôl mynd i mewn i’r môr oddi ar arfordir Dwyrain Swydd Efrog ger Hull.
Yn ôl adroddiadau fe aeth pobl i geisio helpu merch yn ei harddegau aeth i drafferthion ar ôl mynd i mewn i’r môr.
Roedd y chwilio am drydydd person wedi ail-ddechrau fore dydd Sadwrn cyn dod i ben eto am 16:00.
Dywedodd Heddlu Humberside eu bod wedi cael eu galw i'r Promenâd Canolog yn Withernsea am tua 15.15 ddydd Gwener.
Cafodd dyn 67 oed ei dynnu’n anymwybodol o'r dŵr a bu farw yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu, tra bod corff ail berson wedi'i ganfod nos Wener.
Mae’r chwilio wedi bod yn parhau am drydydd person ddydd Sadwrn.
Roedd Gwylwyr y Glannau EM, Gwasanaeth Ambiwlans Swydd Efrog a Gwasanaeth Tân ac Achub Humberside yn parhau yn yr ardal fel rhan o’r ymdrech.
Dywedodd datganiad gan Wylwyr y Glannau fod y chwilio cychwynnol wedi dod i ben am 12.30 fore dydd Sadwrn.
Mewn datganiad dywedodd Gwylwyr y Glannau: "Bydd ymdrechion yn ailddechrau gyda'r wawr, pan fydd timau achub gwylwyr y glannau ynghyd ag asiantaethau partner yn cael eu hanfon i gynnal chwiliadau ychwanegol o'r ardal.”
Dywedodd yr heddlu nad yw amgylchiadau'r ddwy farwolaeth yn cael eu hystyried yn amheus.
“Rydym yn parhau i ofyn i bobl osgoi’r ardal er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys weithio’n effeithlon ac yn ddiogel,” meddai’r heddlu.
Llun: Gwylwyr y Glannau Hull
